HerdAdvance - Welsh Version

Nod HerdAdvance yw helpu ffermwyr llaetha i wella proffidioldeb a pherfformiad eu buches drwy atal a rheoli clefydau.

Gall ffermwyr wneud cais i dderbyn cymorth ariannol a thechnegol drwy’r prosiect HerdAdvance i wella’u dulliau o reoli iechyd y fuches a chlefydau.

Sut fydd hyn o fudd i ffermwyr?

  • Adolygiad am ddim o gynllun iechyd y fuches
  •  Bioddiogelwch am ddim
  •  Gweithredu Iechyd Anifeiliaid am ddim
  • Cymorth ariannol a thechnegol i daclo amrywiaeth o faterion iechyd anifeiliaid
  • Talebau semen ar gael ar gyfer penderfyniadau bridio, yn seiliedig ar Adroddiadau Geneteg y Fuches
  • Profion genomeg
  • Gwella effeithlonrwydd a phroffidioldeb ar y fferm
  • Osgoi colledion cynhyrchu
  • Lleihau defnydd o wrthfiotigau

Sut fydd hyn yn gweithio?

  • Casglu data sylfaenol y fferm i ddechrau
  • Ymgynghori â’ch milfeddyg  a Rheolwr Cyfnewid Gwybodaeth Iechyd Anifeiliaid AHDB i adolygu a diweddaru’ch Cynllun Iechyd Anifeiliaid presennol
  • Gwerthuso/sefydlu Cynllun Bioddiogelwch ar gyfer y Fferm
  • Creu Cynllun Gweithredu, gan gynnwys targedau mesuradwy
  • Ymrwymiad i gyflenwi data rheolaidd i fonitro cynnydd

Cymhwysedd

  • Rydych yn gymwys os ydych chi wedi cofrestru gyda Llywodraeth Cymru ac wedi derbyn Rhif Cyfeirnod Cwsmer  (CRN)
  • Gallwch ond gymryd rhan yn y prosiect unwaith fesul busnes fferm (CRN)
  • Mae’r prosiect hwn yn agored i ffermydd llaeth yng Nghymru
  • Gall ffermydd gyda thir y tu allan i Gymru gymryd rhan yn y prosiect os ydy mwyafrif eu tir yng Nghymru.

Dyddiad Cau 4ydd Tachwedd 2019

  • Mae ffenestr Mynegi Diddordeb ar agor rhwng 27ain Medi a 4ydd Tachwedd 2019. Llenwch a dychwelyd y ffurflen Mynegi Diddordeb i wneud cais.

Lawrlwytho ffurflen Mynegi Diddordeb.

Astudiaethau achos ar ffermwyr

×