Rheoli sgwrio mewn lloi gan ddefnyddio citiau profi

Mae defnyddio reffractomedr a chitiau profi am sgwrio i reoli sgwrio mewn lloi wedi galluogi’r ffermwyr llaeth yn Sir Benfro, Andrew a Judith Hughes, i ostwng nifer yr achosion blynyddol gymaint â 92% a lleihau costau.

Mae Andrew a Judith Hughes yn rheoli’u buches o 250 o fuchod sy’n lloia trwy’r flwyddyn gyda’u mab, James, ar Marlsbrough Farm yn Hwlffordd. Mae’r fferm yn magu eu heffrod amnewid eu hunain ac yn prynu teirw i mewn, i gyflenwi llaeth i First Milk ar gontract Tesco.

Yn y cyfnod o 12 mis hyd at Awst 2020, cafwyd 25 achos o sgwrio mewn lloi ar fferm Marlsbrough. Y prif asiant achosol a nodwyd yn y gorffennol oedd cryptosporidiwm. Yn Ionawr 2020, dechreuodd y tîm frechu buchod yn erbyn Rotafeirws, Coronafeirws ac E.coli yn ystod y cyfnod sych, i basio’r amddiffyniad ymlaen i’r lloi. Cafodd y lloi eu trin hefyd â halofuginone, sef cocsidiostat a ddefnyddir i atal cryptosporidiosis.

Mae Marlsbrough Farm yn un o 500 o ffermydd a ddewiswyd gan AHDB i gymryd rhan yn ei brosiect HerdAdvance, sy’n anelu at helpu ffermwyr llaeth yng Nghymru i wella’u proffidioldeb a’u perfformiad drwy ganolbwyntio ar reoli iechyd y fuches a rheoli clefydau’n well.

Trwy’r prosiect HerdAdvance, derbyniodd y fferm reffractomedr a chitiau profi am sgwrio gan eu Rheolwr Cyfnewid Iechyd Anifeiliaid AHDB, Lauren Arndt.

O ganlyniad i ddefnyddio’r citiau a gweithio’n agos â’r milfeddyg Joan Phillips o Fenton Vets, newidiwyd y protocolau rheoli ar adeg lloia.  Yn wreiddiol, byddai’r lloi yn cael eu gadael ar eu mamau i sugno colostrwm cyn cael eu symud, ond nawr maent yn cael eu cymryd oddi ar eu mamau yn fuan ar ôl lloia cyn iddynt sugno, gan roi rheolaeth felly dros y colostrwm a dderbyniant.  Mae lloi heffrod amnewid yn derbyn colostrwm sydd wedi’i storio, sy’n dod o fuchod a gafodd eu brechu’n unig, ac sydd wedi’i wirio i sicrhau ei ansawdd cyn ei storio.

Canfu astudiaeth yn 2016 bod y gost o fethu â sicrhau trosglwyddiad imiwnedd o golostrwm oddeutu £55 ar gyfer lloi llaeth, a £75 ar gyfer lloi cig eidion (Raboisson et al., 2016).  Mae methu â chael imiwnedd da o golostrwm yn golygu bod lloi 1.5 gwaith yn fwy tebygol o ddioddef o sgwrio, 1.8 gwaith yn fwy tebygol o gael niwmonia, a ddwywaith yn fwy tebygol o farw, ac mae neilltuo amser i wella rheolaeth o golostrwm yn aml yn hynod o werth chweil.

Erbyn hyn hefyd, cedwir y lloi mewn cybiau grŵp, y gellir eu symud rhwng pob batsh.

Ers Awst 2020, cafwyd dau achos yn unig o sgwrio, yn ôl Judith.  Bu’n defnyddio’r citiau profi am sgwrio i brofi unrhyw achosion amheus am Rotafeirws, Coronafeirws, E.coli a Chryptosporidiwm, ac mae’r cyfan wedi profi’n negyddol.  Mae defnyddio’r wybodaeth hon wedi caniatáu i Judith roi’r gorau i driniaeth reolaidd gyda halofuginone, a hyd yn hyn, ni ddaeth unrhyw broblemau newydd i’r fei.  Mae hi hefyd yn defnyddio llai o wrthfiotigau.

Meddai Judith: “Ers defnyddio’r citiau profi am sgwrio, rydym yn rhoi gofal sylfaenol yn unig erbyn hyn i loi gyda chanlyniadau negyddol.  Mae hynny wedi osgoi defnydd diangen o wrthfiotigau a drenshis crypto, a byddaf yn defnyddio mwy ohonynt yn y dyfodol.”

Meddai Lauren: “Mae gwybod pa bathogenau sy’n bresennol yn help i sefydlu protocol trin ac atal ar y fferm, a thynnu sylw at feysydd i’w gwella.  Bydd defnyddio citiau sgwrio ar y fferm yn rhoi canlyniadau cyflym a fydd yn caniatáu ichi roi triniaeth briodol i’r lloi sydd wedi’u heffeithio. Gall y defnydd o reffractomedrau BRIX a roir i ffermydd llwybr stoc ifanc HerdAdvance hefyd sicrhau bod cymeriant digonol o golostrwm yn osgoi pasio’r clefyd ymlaen.”

Magu lloi llaeth benywaidd yw’r gost flynyddol ail fwyaf ar ffermydd llaeth, sy’n cyfrif am tua 20% o’r costau cynhyrchu. Fodd bynnag, drwy eu rheoli yn y ffordd orau, byddant yn ad-dalu’r gost a fuddsoddir yn eu magu drwy gynhyrchu mwy o laeth am gyfnod hirach yn ystod eu hoes.

Gellir defnyddio citiau profi am sgwrio mewn lloi i ganfod pa asiant heintus sy’n achosi i’ch lloi sgwrio, a dyna’r cam cyntaf tuag at driniaeth lwyddiannus, neu hyd yn oed atal y sgwrio’n gyfan gwbl. Mae gwybod beth sy’n achosi’r broblem yn golygu y gall eich milfeddyg eich cynghori ar y mesurau rheoli mwyaf addas, a phennu’r driniaeth fwyaf priodol.

Gallwch ddysgu mwy am reoli lloi llaeth ar https://ahdb.org.uk/knowledge-library/dairy-calf-management.

Mae HerdAdvance yn rhan o’r Rhaglen Gwella’r Sector Llaeth pum mlynedd, a ariannir gan Lywodraeth Cymru a’r Undeb Ewropeaidd. I gael mwy o wybodaeth am y prosiect HerdAdvance ewch i’n gwe-dudalen benodedig ar ahdb.org.uk/herdadvance.

×