Profion gwaed yn allweddol i leihau nifer y lloi marw-anedig ymhlith heffrod

Tuesday, 2 March 2021

Mae canfod diffygion elfennau hybrin drwy gynnal profion gwaed wedi helpu Tom Bletcher, ffermwr llaeth o Sir y Fflint, i ostwng ei gyfradd lloi marw-anedig o 8% i 2% yn ei heffrod amnewid, sydd wedi arwain at arbedion cost sylweddol.

Mae Tom Bletcher a’i dad Roger yn rheoli eu buches o 400 o fuchod, sy’n lloia trwy’r flwyddyn, ar fferm  Argoed Hall yn yr Wyddgrug, Sir y Fflint.  Ymunodd y fferm â’r prosiect HerdAdvance yng ngwanwyn 2019.

Fel rhan o HerdAdvance, cafodd tîm y fferm eu cyfarfod cyntaf i drafod iechyd y fuches yn gyffredinol a nodi meysydd blaenoriaeth, gyda milfeddyg y fferm a Rheolwr Cyfnewid Gwybodaeth Iechyd Anifeiliaid AHDB, Ifan Owen.  Roedd nifer yr achosion o loi marw-anedig ymhlith heffrod yn destun pryder, gydag 8% bob mis ar gyfartaledd dros y 12 mis diwethaf, gan gyrraedd pinacl o 20% un mis.  

Roedd y gyfradd uchel o loi marw-anedig yn cael effaith ariannol sylweddol ar y fferm.  Meddai Tom, “Roeddem yn brin o heffrod amnewid ar gyfer y fuches, ac yn colli rhai o’n hanifeiliaid rhinwedd genetig uchaf yr oeddem wedi buddsoddi’n drwm ynddynt drwy ddefnyddio semen rhyw-benodol.”

Roedd colli lloi, er bod y staff yn rhoi llawer o sylw i heffrod oedd yn lloia, hefyd yn cael effaith negyddol ar forâl y staff, ac yn ôl Tom:  “Does dim byd yn cael fwy o effaith andwyol ar forâl na chael nifer fawr o loi marw-anedig, ar ôl yr holl waith sydd ynghlwm â magu’r heffrod.”

Gyda chymorth ariannol drwy Glinig Iechyd Anifeiliaid Cyswllt Ffermio, cymerodd y milfeddyg samplau gwaed gan heffrod cyflo.  Roedd y rhain yn dangos bod yr heffrod yn dioddef o ddiffyg elfennau hybrin, yn enwedig seleniwm, all arwain at erthylu’r ffoetws.

Yn sgil y darganfyddiad hwn, dechreuodd y fferm roi bolws i heffrod cyflo ar adeg eu troi allan, i’w darparu â digon o elfennau hybrin nes iddynt loia.  Mae heffrod dan 500k yn cael un bolws a’r rhai dros 500k yn cael dau.  Mae hyn wedi cael effaith bositif sylweddol dros y 12 mis diwethaf, gyda’r nifer cyfartalog o loi marw-anedig yn gostwng i 2% yn unig, o’i gymharu â’r 8% bob mis yn flaenorol.

Mae lleihau’r gyfradd farw-anedig yn golygu bod mwy o heffrod gyda rhinweddau genetig uchel ar y fferm, sy’n caniatáu i’r tîm gwrdd â’u cyfradd amnewid a bod yn fwy dethol wrth wneud penderfyniadau bridio.  Erbyn hyn mae’r fferm yn neilltuo canran uwch o’r fuches ar gyfer bîff, sy’n darparu ffrwd incwm ychwanegol.

Mae costau amnewid cyfartalog fferm Argoed Hall wedi’u cyfrifo’n £1,231, gyda gwerth yr heffrod amnewid yn cyfrif am £245 o’r gost honno.  Felly, mae gostwng y gyfradd farw-anedig o 8% i 2% yn golygu arbediad cost cyfartalog o £1,470.

Meddai Tom:  “Rydym yn hynod o hapus gyda’r gwelliannau a wnaed.  Roeddem yn gwybod bod gennym broblem ac mae bod yn rhan o brosiect HerdAdvance wedi tynnu sylw at y ffaith bod lle i wella, ac wedi’n sbarduno i weithredu a gweld canlyniadau gwych.”

Dywed Ifan:  “Mae Tom wedi dangos beth ellir ei gyflawni drwy gael mynediad at gofnodion iechyd cywir.  Drwy gael yr wybodaeth honno wrth law, mae’r tîm wedi llwyddo i wneud penderfyniadau rheoli gwybodus, ac maent yn parhau i fonitro’r buddiannau.  Mi ddywedodd Bill Gates unwaith:  ‘How you gather, manage, and use information will determine whether you win or lose’, ac mae fferm Argoed Hall wedi canfod system gofnodi sy’n gweithio iddyn nhw.”

Mae fferm Argoed Hall yn un o 500 o ffermydd a ddewiswyd gan AHDB i gymryd rhan yn ei brosiect HerdAdvance, sy’n anelu at helpu ffermwyr llaeth yng Nghymru i wella’u proffidioldeb a’u perfformiad drwy ganolbwyntio ar wella dulliau o reoli iechyd y fuches a chlefydau.

I gael mwy o wybodaeth am y prosiect HerdAdvance ewch i’n gwe-dudalen benodedig ar ahdb.org.uk/herdadvance.

Mae HerdAdvance yn rhan o’r Rhaglen Gwella’r Sector Llaeth pum mlynedd, a ariannir gan Lywodraeth Cymru a’r Undeb Ewropeaidd.

Sectors:

×