Pwyso rheolaidd yw’r allwedd i ostwng oedran lloia am y tro cyntaf

Friday, 31 July 2020

Mae pwyso heffrod bob mis wedi helpu’r ffermwr llaeth o Wrecsam, Richard Evans, i ostwng ei oedran lloia cyfartalog o naw mis, gan wneud arbediad sylweddol o ran costau.

Trwy bwyso’r heffrod bob mis, llwyddodd Richard i ostwng oedran cyfartalog lloia am y tro cyntaf, o 35 mis i 26 mis, gan arbed £774 yr heffer ar draws ei fuches o 160 o fuchod, sy’n lloia yn yr hydref a’r gaeaf ar Halton Farm.

Mae’r fferm yn un o 500 o ffermydd a ddewiswyd gan AHDB i gymryd rhan yn ei brosiect HerdAdvance, sy’n anelu at helpu ffermwyr llaeth yng Nghymru i wella’u proffidioldeb a’u perfformiad drwy ganolbwyntio ar wella’u dulliau o reoli iechyd y fuches a chlefydau.

Yn Ebrill 2019, cafodd Richard gyfarfod cychwynnol â’i filfeddyg Kim Holliday (Milfeddygfa Parc Isa) a Teaghan Tayler, Uwch Reolwr Cyfnewid Gwybodaeth AHDB.  Yr oedran lloia am y tro cyntaf ar gyfartaledd oedd 35 mis, a oedd yn uwch nag yr hoffai Richard iddo fod, a gyda’i gilydd, trafododd y tîm y mater, a chreu cynllun gweithredu.

Y cam cyntaf oedd sefydlu rhaglen bwyso fisol i asesu unrhyw adegau o dwf isel a mynd i’r afael â’r rheiny wrth iddynt godi.  Yn ogystal, trafodwyd addasu’r rhaglen baru fel bod heffrod yn cael eu paru pan oeddent yn cyrraedd 60% o’u pwysau llawn, yn hytrach nag yn ôl graddfa amser.

Cafodd yr heffrod eu rhannu’n dri grŵp i sicrhau eu bod gydag anifeiliaid o oedran tebyg.  Yna cawsant eu pwyso bob mis a chofnodwyd y data ar daenlen, gan fonitro cyfraddau twf bob anifail unigol fesul dydd.

Crëwyd cynllun datblygu penodol ar gyfer heffrod y fferm.  Cyfrifwyd bod angen cyfradd twf o 0.7kg y dydd i sicrhau bod yr heffrod yn cyrraedd eu pwysau targed, a’u bod yn barod i’w paru erbyn iddyn nhw fod yn 15 mis oed.  Crëwyd cynllun bwydo dwysfwyd hefyd i sicrhau bod yr heffrod yn cael eu bwydo â’r Kg/SS cywir i gael y cyfraddau twf gofynnol.

Dangosodd data mwyaf diweddar y Cofnodion Llaeth Cenedlaethol (NMR) ar gyfer hanner cyntaf 2020 bod oedran cyfartalog lloia am y tro cyntaf wedi gostwng i 30 mis, a bydd heffrod sy’n lloia yr hydref hwn yn 26 mis oed ar gyfartaledd.

Mae pob diwrnod dros ben yr oedran lloia am y tro cyntaf gorau posib o 24 mis yn costio £2.87 ychwanegol y dydd i’r ffermwr.  Mae gostwng oedran cyfartalog lloia am y tro cyntaf o naw mis wedi arwain at arbediad cost sylweddol i Richard o £774 yr heffer.

Meddai Richard: “Mae pwyso bob mis wedi’n helpu ni i gadw golwg mwy manwl ar yr heffrod.  Er ein bod yn eu gweld nhw yn y padog bob dydd, mae eu rhoi drwy’r craets bob mis yn rhoi cyfle gwell inni gael golwg fanwl arnyn nhw.  Mi fydda i’n dal ati i bwyso bob mis o hyn ymlaen am ei fod yn rhoi tawelwch meddwl imi, ac rwy’n gwybod y gallaf asesu unrhyw broblemau’n gyflym cyn iddyn nhw gael effaith ddifrifol ar yr heffrod.”

Mae gwybod beth yw union bwysau pob anifail hefyd wedi galluogi Richard i roi triniaethau a brechiadau misol, gan sicrhau eu bod yn derbyn y dosys cywir.  Hefyd, mae trafod yr anifeiliaid bob mis yn golygu eu bod yn dod i arfer â’r drefn ac mae’r heffrod yn setlo mewn i’r fuches yn gynt.

Dywed Teaghan:  “Mae gwybod beth yw pwysau eich heffrod a mynd i’r afael ag unrhyw broblemau wrth iddyn nhw godi yn hanfodol er mwyn magu anifail sy’n gynhyrchiol ar hyd ei oes. Mae magu heffrod ar  gyfer eich buches yn y dyfodol yn gofyn am reolaeth ofalus a llygad dda am fanylder.  Mae dod â’r heffrod drwy eich iard bob wythnos yn helpu i ganolbwyntio ar bob anifail unigol yn rheolaidd.

I gael gwybod mwy am y prosiect HerdAdvance, ewch i’n gwe-dudalen benodedig ar ahdb.org.uk/herdadvance.

Mae HerdAdvance yn rhan o’r Rhaglen Gwella’r Sector Llaeth pum mlynedd, a ariannir gan Lywodraeth Cymru a’r Undeb Ewropeaidd.

Sectors:

×