Deall beth sy’n achosi mastitis yn allweddol i’w reoli
Thursday, 17 September 2020
Trwy roi Cynllun Rheoli Mastitis yn ei le, mae’r ffermwr Chris Mossman wedi gweld gostyngiad dramatig yn nifer yr achosion o fastitis yn ei fuches ar Fferm Nantybach.
Mae Chris Mossman yn rheoli buches o fuchod llaeth croesfrid sy’n lloia’n y gwanwyn yn Llangrannog, Ceredigion. Yn ystod haf 2018, cynyddodd nifer yr achosion o fastitis clinigol ar y fferm, fel bod y gyfradd yn uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol o 30 achos fesul 100 o fuchod. Penderfynodd Chris a’i dîm fynd ati i geisio deall beth sy’n achosi mastitis a pharatoi cynllun i fynd i’r afael â hynny.
Mae’r fferm yn un o 500 o ffermydd a ddewiswyd gan AHDB i gymryd rhan yn y prosiect HerdAdvance, sy’n anelu at helpu ffermwyr llaeth yng Nghymru i wella’u proffidioldeb a’u perfformiad drwy ganolbwyntio ar wella’u dulliau o reoli iechyd y fuches a chlefydau.
Ymwelodd Anna Bowen, rheolwr cyfnewid gwybodaeth iechyd anifeiliaid AHDB â’r fferm a chwrdd â milfeddyg y fferm, a chytunwyd y byddai’n fuddiol rhoi Cynllun Rheoli Mastitis yn ei le. Nod y cynllun yw lleihau nifer yr achosion o fastitis clinigol a nifer y buchod sydd â chyfrif celloedd uchel, drwy ddarparu’r fferm â set o bwyntiau gweithredu perthnasol a chyflawnadwy.
Canfod ffynonellau mastitis
Yn gyntaf, gofynnwyd i’r tîm godro rewi samplau llaeth aseptig yn cynnwys cymysgedd o achosion clinigol a buchod gyda chyfrif celloedd somatig uchel.
Bu Anna’n arsylwi’r drefn odro, y dognau bwydo a’r ardaloedd lletya, a chwblhaodd holiadur ar reolaeth y fferm. Mae’r fferm yn cadw cofnodion llaeth misol ar gyfer y Gwasanaeth Gwybodaeth am Wartheg (CIS). Cymerwyd data o’r feddalwedd cofnodion llaeth a’i roi trwy’r Arf Patrwm Mastitis.
Dangosodd hyn mai’r brif broblem o ran mastitis oedd yr amgylchedd, a hynny’n bennaf yn ystod y cyfnod sych, er bod yna broblem yn ystod y cyfnod llaetha yn yr haf hefyd. Ar sail hynny, paratôdd Anna Gynllun Gweithredu Amgylchedd Llaetha, a oedd yn cynnwys nifer o newidiadau i Chris a’i dîm eu gwneud.
Dangosodd profion a wnaed ar y samplau llaeth fod rhai o’r buchod wedi’u heintio â bacteriwm pseudomonas, all fod yn gysylltiedig â’r cyflenwad dŵr, ac felly cynghorwyd y fferm i gynnal profion dŵr ychwanegol. Roedd sychder 2018 yn ffactor arwyddocaol o ran y cynnydd yn nifer yr achosion, ac felly roedd rhai o’r camau gweithredu ar gyfer adegau pan oedd y borfa’n brin a’r buchod yn cael eu cadw mewn padogau ar gyfer bwydo ychwanegol.
Am fod y fuches yn lloia’n y gwanwyn, penderfynwyd canolbwyntio ar y cyfnod llaetha dros yr haf. Yn hydref 2019, dychwelodd Anna gyda Chynllun Gweithredu Cyfnod Sych, ac edrychodd y fferm ar y newidiadau y gellid eu gwneud i’r ffordd roedd buchod sych yn cael eu rheoli.
Mynd i’r afael â mastitis
O ganlyniad i’r cynlluniau, dechreuodd tîm Chris sychu tethi’r buchod ymlaen llaw yn y parlwr cyn eu godro, a gwnaed rhigolau ychwanegol yn y concrid i’w hatal rhag llithro. Dechreuwyd cynllunio i godi ffensys dros dro a rheoli padogau lle roedd y tir yn llwm iawn, neu pan fyddai buchod yn defnyddio padog dro ar ôl tro ar gyfer bwydo ychwanegol. Cafodd buchod gyda Chyfrif Celloedd Somatig uchel eu monitro a’u trin yn briodol.
Gwellwyd dulliau o letya buchod sych a rheoli ciwbiclau, gan gynnwys rhoi mwy o le i bob buwch ac ehangu’r ardal fwydo. Maent hefyd yn defnyddio data cofnodion llaeth i edrych ar fuchod cyn ac yn ystod y cyfnod sych, i weld pryd y gallent fod yn dal yr haint.
Lleihau achosion o fastitis
Dywed Chris: “Trwy weithredu’r argymhellion a gawsom gan Anna, mae’r staff wedi gweld canlyniadau positif i’w hymdrechion yn gyflym iawn. Trwy edrych ar y ffordd rydym yn rheoli’r buchod ar adegau allweddol, rydym wedi lleihau’r achosion o fastitis ar y fferm yn sylweddol. Yn ddiweddar gwelwyd cynnydd yn y nifer o achosion o fastitis, ac roeddem yn gallu edrych eto ar y cynllun a gweithredu fel bo angen i’w lleihau. Mae hefyd yn ffordd dda o leihau defnydd o wrthfiotigau.
“Rydym hefyd wedi cwrdd â’n milfeddyg, James Breen, i wneud gwaith ychwanegol ar y ffordd rydym yn defnyddio data, sydd wedi’n helpu i reoli mastitis a’r camau data sydd yn y cynllun.
“Roedd y cynlluniau rheoli yn hawdd eu dilyn ac yn rhoi cyfarwyddyd clir ar beth oedd angen ei newid er mwyn gweld gwelliant. Mae’r help a gawsom gan Anna wedi bod yn wych, a buaswn yn cynghori unrhyw un arall sy’n cael trafferth rheoli mastitis yn y fuches i siarad â’u milfeddyg a rhoi Cynllun Rheoli Mastitis yn ei le.”
O ganlyniad i’r newidiadau hyn, dros gyfnod lloia 2020, gwelwyd gostyngiad sylweddol yn nifer yr achosion o fastitis yn ystod y cyfnod sych, ac o Fehefin 2020, ni chafwyd unrhyw achosion yn ystod y cyfnod llaetha. O edrych tuag at Aeaf 2020/2021 y nod yw parhau i wella eu dull o reoli heffrod, gan gynnwys defnyddio selydd tethi allanol i ddarparu amddiffyniad ychwanegol.
Dywed Anna: “Nodi’r meysydd all fod yn achosi mastitis yn eich buches yw’r cam cyntaf tuag at leihau nifer yr achosion. Gall newidiadau syml wneud gwahaniaeth mawr i iechyd eich buches. Mae’r Cynlluniau Rheoli Mastitis yn glir a hawdd eu dilyn ac wedi’u teilwra ar gyfer eich fferm chi. Wrth greu cynllun, rwy’n edrych ar holl agweddau’r fferm er mwyn darparu’r ffermwr â dull strwythuredig o atal a rheoli mastitis.”
Am fwy o wybodaeth, ewch i’n gwe-dudalen mastitis.
Sectors: