Lleihau achosion o fastitis clinigol drwy daclo gor-odro
Tuesday, 25 May 2021
Mae tynnu clystyrau’n gynt i osgoi gor-odro wedi galluogi’r ffermwr llaeth Aled Williams i leihau’r achosion o fastitis clinigol yn ei fuches gymaint â 25%.
Mae Aled yn rheoli buches o 85 o fuchod Holstein a chroesfrid ar fferm Bryngwyn yn Llangadog, Sir Gâr, sydd wrthi’n newid o system lloia trwy’r flwyddyn i system lloia mewn bloc yn yr hydref.
Mae Bryngwyn yn un o 500 o ffermydd a ddewiswyd gan AHDB i gymryd rhan yn ei brosiect HerdAdvance, sy’n anelu at helpu ffermwyr llaeth yng Nghymru i wella’u proffidioldeb a’u perfformiad drwy ganolbwyntio ar reoli iechyd y fuches a rheoli clefydau’n well.
Yn sgil cynnydd yn yr achosion o fastitis clinigol a’r cyfrif celloedd somatig, rhoddodd y fferm Gynllun Rheoli Mastitis AHDB ar waith gyda milfeddyg y fferm, Sotirios Karvountzis.
Dangosodd profion amser godro (dynamig) a sgorau blaen y deth fod y buchod yn cael eu gor-odro am rhwng 1 a 4 munud.
Meddai Sotirios: “Gelwir gosod gwactod ar deth y fuwch ar ôl i’r chwarter hwnnw orffen godro yn or-odro. Gall hyn arwain at hyperceratosis ar flaen y deth, sef gor-gynhyrchu ceratin ar agorfa’r deth oherwydd y llid cyson a achosir drwy gael y gwactod arni am gyfnod hir. Gall hyn wneud difrod i flaen y deth a chynyddu’r perygl o fastitis neu gyfrif celloedd somatig uchel.”
Mae’r Cynllun Rheoli Mastitis yn nodi’r prif ffactorau sy’n cyfrannu at fastitis ar fferm drwy ddefnyddio cofnodion llaeth, cofnodion clinigol, a holiadur trylwyr sy’n gofyn am ddulliau rheoli cyffredinol, y drefn odro, rheoli’r cyfnod sych, a phrotocolau mastitis.
Roedd cynllun Bryngwyn yn canolbwyntio ar bathogenau amgylcheddol yn ystod llaethiad a phathogenau heintus o’r cyfnod sych, a chrëwyd Cynllun Gweithredu wedi’i deilwra’n arbennig ar gyfer y fferm.
Ni ddefnyddir teclynnau tynnu clystyrau awtomatig ar y fferm felly roedd hi’n bwysig dod o hyd i ateb oedd yn gwella iechyd yr anifeiliaid heb orfod buddsoddi’n helaeth yn y parlwr.
Trafododd Sotirios yr opsiynau gyda’r tîm, sydd erbyn hyn yn tynnu’r clystyrau’n gynt nag o’r blaen, ac mae hynny wedi arwain at lai o lawer o or-odro a niwed i deth y fuwch. Mae’r achosion o fastitis clinigol wedi gostwng 25% ac maent yn parhau i wella. Disgwylir gostyngiadau pellach yn y cyfrif celloedd somatig wrth iddyn nhw gwblhau’r cynllun.
Yr haf hwn, bydd Aled yn dadansoddi’r canlyniadau hyd yn hyn ac yn trafod meysydd ffocws yn y dyfodol gyda Sotirios a Rheolwr Cyfnewid Gwybodaeth Iechyd Anifeiliaid AHDB y fferm, Ceri Davies, yn ystod y cyfarfod olaf gyda’r milfeddyg, a ariannir gan brosiect HerdAdvance.
Gall offer a gweithdrefnau godro gael effaith fawr ar ledaeniad mastitis ar eich fferm. I ddarllen ein canllawiau arfer gorau ar gadw offer a phrosesau godro’n ddiogel ac yn lanwaith ewch i ahdb.org.uk/knowledge-library/dairy-cow-milking-process-and-machinery.
Gallwch ddod o hyd i’ch cyflenwr Cynllun Rheoli Mastitis AHDB Llaeth agosaf ar mastitiscontrolplan.co.uk/plan-deliverer-map neu cewch fwy o wybodaeth am reoli mastitis ar ahdb.org.uk/knowledge-library/mastitis-in-dairy-cows.
Mae HerdAdvance yn rhan o’r Rhaglen Gwella’r Sector Llaeth pum mlynedd, a ariannir gan Lywodraeth Cymru a’r Undeb Ewropeaidd. I gael mwy o wybodaeth am y prosiect HerdAdvance ewch i’n gwe-dudalen benodedig ar ahdb.org.uk/herdadvance.
Read our best practice guides on keeping milking equipment and processes safe and hygienic
Find your nearest AHDB Dairy Mastitis Control Plan deliverer
Find more information on managing mastitis
HerdAdvance is part of the five-year Dairy Improvement Programme, which is funded by the Welsh Government and the European Union.
Sectors: