Cael gwared â chloffni i gadw buchod yn symud

Wednesday, 29 April 2020

Mae sgorio symudedd yn rheolaidd wedi helpu Rhys Davies, ffermwr llaeth o Sir y Fflint i leihau cloffni ar draws ei fuches a nodi anifeiliaid ifanc i fridio ohonynt yn y dyfodol.

Dros gyfnod o dri mis, llwyddodd Rhys i ganfod a thrin buchod oedd yn dangos arwyddion cynnar, gan lwyddo i leihau nifer y buchod gyda sgôr o 2 a 3 o 10% i 1% ar draws ei fuches o 100 o fuchod sy’n lloia mewn bloc yn y gwanwyn.

Mae Rhys, sy’n ffermio Moor Farm ger Treffynnon, bob amser wedi dilyn y dull pum cam wrth docio traed, gan ddefnyddio triniaeth wrthlidiol i drin achosion o glefyd y llinell wen.  Fodd bynnag, roedd hynny’n mynd yn gostus felly roedd yn chwilio am ffyrdd o leihau nifer yr achosion cyn cyrraedd y cam hwnnw.

Roedd Rhys yr un mor awyddus i warchod delwedd y diwydiant drwy gadw’r achosion o gloffni mor isel â phosib, am fod yna lwybr cyhoeddus yn croesi rhannau o’r tir pori ar ei fferm.

Roedd y fferm yn un o bum cant o ffermydd a ddewiswyd gan AHDB i gymryd rhan yn ei brosiect HerdAdvance, sy’n anelu at helpu ffermwyr llaeth yng Nghymru i wella’u perfformiad a’u proffidioldeb drwy fabwysiadu dulliau gwell o reoli iechyd y fuches a rheoli clefydau.

Mae’r fenter hon yn rhan o’r Rhaglen Gwella’r Sector Llaeth pum mlynedd, sy’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru a’r Undeb Ewropeaidd.

Dywed Rhys:  “Ein prif resymau dros geisio gwella’r ffordd rydym yn rheoli cloffni oedd gwella morâl, delwedd y diwydiant, cynhyrchu mwy o laeth, a lleihau costau trin y buchod.  Rydym o’r farn fod un buwch gloff un yn ormod.

I ddechrau, trafododd Rhys beth roedd am ei gyflawni gyda’i filfeddyg, a’i Reolwr Cyfnewid Gwybodaeth AHDB, Ifan Owen, a chytunodd i dechrau sgorio symudedd bob mis.

Helpodd Ifan Rhys i gwblhau’r sgôr fuches gyfan gyntaf yng Ngorffennaf 2019 wrth i’r buchod adael y parlwr godro.  Rhoddodd Rhys flaenoriaeth i’r 10% o fuchod gyda sgorau symudedd o 2 (cloff) neu 3 (cloff iawn), gyda buchod sgôr 3 yn cael triniaeth frys a buchod sgôr 2 yn cael triniaeth gynnar.

Ar ôl hynny, cwblhaodd Rhys y ddwy sesiwn sgorio fisol nesaf ar ben ei hun.  Roedd cyfradd gwellhad buchod sgôr 2 rhwng Gorffennaf ac Awst yn 67%, gyda dim ond un achos newydd yn cael ei nodi yn Awst, gan leihau sgôr cloffni’r fuches gyfan i 6%.

Erbyn Medi, roedd cloffni’r fuches lawr i 1% yn unig (sgorau 2 a 3).  Mae Rhys o’r farn bod hyn oherwydd bod buchod cloff yn cael eu canfod yn gynt, gan olygu bod y broblem yn llai difrifol a bod y fuwch yn gwella’n gynt.

Dywed Rhys:  “Pe na baem wedi cysylltu ag AHDB i fod yn rhan o’r prosiect HerdAdvance, fydden ni ddim wedi gwneud hyn.  Mae cael strwythur sgorio symudedd rheolaidd wedi caniatáu inni dargedu trefn y driniaeth a thrin buchod yn gynt nag arfer.”

Nid lleihau’r achosion o gloffni oedd yr unig fudd, oherwydd roedd Rhys hefyd yn cael defnyddio’r data i ganfod anifeiliaid amnewid ac ychwanegu at y polisi bridio.  Erbyn hyn mae’r buchod yn well am ddangos arwyddion eu bod yn gofyn tarw, gan wneud hi’n haws nodi buchod i’w semenu a’u cael yn gyflo’n gynt, gan gynnal y bloc lloia tynn.

Meddai Ifan Owen:  “Allwch chi ddim rheoli’r hyn nad ydych chi’n ei fesur.  Dyna’r union achos gyda sgorio symudedd.  Drwy neilltuo un sesiwn odro bob mis i fonitro symudedd buchod unigol, gall ffermwr ddefnyddio’r sgorau sydd wedi’u categoreiddio fel templed, i flaenoriaethu a dechrau targedu achosion.”

I gael mwy o wybodaeth ar sut y gall sgorio symudedd yn amlach eich helpu i reoli cloffni yn eich buches, ewch i we-dudalen cloffni AHDB: ahdb.org.uk/knowledge-library/lameness-in-dairy-cows.

×