HerdAdvance yn helpu magwr heffrod i sicrhau cost a budd o £10,220

Wednesday, 17 February 2021

Mae fferm laeth yng Nghymru wedi sicrhau cost a budd o £10,220 yn ei rhaglen magu heffrod dros gyfnod o ddwy flynedd ar ôl gwella’i dulliau o reoli stoc ifanc.

Mae’r teulu Evans yn rhedeg buches o 168 o fuchod Holstein Friesian sy’n lloia trwy’r flwyddyn ar Halton Farm, Y Waun.

Roeddent yn cael trafferth gostwng oedran cyfartalog lloia am y tro cyntaf ymhlth eu heffrod – yn 2018 roedd yn 35 mis, ac mae ymchwil yn dangos bod pob diwrnod o oedi cyn lloia am y tro cyntaf tu hwnt i 24 mis yn golygu cost magu ychwanegol o £2.87 yr heffer.

Yn ogystal â’r cymhelliad ariannol, roedd gan y busnes resymau eraill dros ostwng oedran lloia’r heffrod.

“Mi wnaethon ni golli fferm roeddem wedi’i rhentu ers ugain mlynedd ac roeddem hefyd yn brwydro yn erbyn TB ers tair blynedd, roedd angen inni gynyddu nifer ein buchod heb brynu mewn,” meddai Richard Evans, sy’n ffermio mewn partneriaeth â’i rieni a’i frawd.

Ar ôl cofrestru i gael cymorth gan HerdAdvance a chyflwyno nifer o newidiadau, gostyngwyd yr oedran lloia am y tro cyntaf i 23 mis yn 2020.

Nod HerdAdvance yw helpu ffermwyr llaeth yng Nghymru i wella proffidioldeb a pherfformiad eu buches – gall ffermwyr wneud cais am gymorth ariannol a thechnegol i wella’u dulliau o reoli iechyd y fuches a rheoli clefydau.

Cofrestrodd Mr Evans ar gyfer elfen Stoc Ifanc y cynllun, a gweithiodd gyda’r milfeddyg Kim Holliday o Park Issa Vets a Rheolwr Cyfnewid Gwybodaeth AHDB, Teaghan Tayler, i lunio cynllun gweithredu.

Roedd hwn yn cynnwys graddfa faeth gynyddol ar gyfer heffrod, pwyso bob mis, diddyfnu’n gynt, a rhaglen frechu ar gyfer clefydau resbiradol.  

Gosododd y rhaglen darged pwysau o 360kg adeg cael tarw yn 15 mis oed.  I gyflawni hyn, roedd angen i heffrod Mr Evans dyfu 0.7kg y dydd ar hyd y cyfnod magu.

Mae’r rhaglen fwydo ddiwygiedig yn golygu bwydo tri litr o laeth powdwr ddwywaith y dydd ar ddwysedd o 135g y litr, gan gynyddu i bedwar litr ddwywaith y dydd pan fydd y llo’n bedair wythnos oed.

Cyn hynny roedd Mr Evans yn bwydo dau litr o laeth cyflawn ddwywaith y dydd.

Erbyn hyn mae’r lloi’n cael dwysfwyd yn wythnos oed; erbyn adeg diddyfnu maent yn bwyta 2kg y dydd.

O ganlyniad i’r twf cyflymach, mae’r oedran diddyfnu wedi gostwng o 8-12 wythnos i 8-10 wythnos.

Mae’r heffrod nawr yn cael eu brechu ddwywaith y flwyddyn ar gyfer clefydau resbiradol.

O’r 42 o heffrod a aned rhwng Gorffennaf 2018 a Chwefror 2019, aeth 41 tu hwnt i’r gyfradd twf o 0.7kg y dydd a osodwyd.  Yn y garfan hon, oedran cyfartalog cael tarw am y tro cyntaf oedd 14 mis.

O ganlyniad i’r gwelliannau i’r rhaglen magu heffrod roedd oedran cyfartalog lloia am y tro cyntaf ymhlith yr heffrod yn 23 mis yn 2020, sef arbediad posib o £996 ar gostau magu pob heffer, serch bod costau dyddiol y magu wedi codi yn sgil y bwydo ychwanegol.

Roedd hyn am fod nifer yr heffrod ar y fferm wedi gostwng o 137 i 98 am fod yr heffrod yn ymuno â’r fuches odro’n gynt, felly roedd angen llai o dir pori ar Mr Evans, a arbedodd £13,500 o arian rhent.

O ganlyniad i’r newidiadau, cynyddodd elw gros ei raglen magu heffrod o £6,770; yn 2020 aeth y cynnydd yn yr elw gros i lawr yn sgil y costau bwydo uwch, ond roedd yn parhau i fod £3,450 yn uwch o’i gymharu â’r blynyddoedd blaenorol.

Dywed Ms Tayler ei bod hi’n debygol y bydd yna fuddiannau eraill ar ôl y cyfnod magu am fod heffrod sy’n lloia’n iau yn debygol o gael bywyd cynhyrchiol hirach.

“Yn ôl un astudiaeth, o’i gymharu â lloia’n 30 mis oed, roedd lloia’n 24 mis oed yn lleihau’r tebygolrwydd o ddifa yn ystod y llaethiad cyntaf oddeutu thraean (Sherwin et al 2016),’’ meddai.

Mae astudiaeth arall yn awgrymu bod heffrod sy’n lloia rhwng 22 a 26 mis oed yn debygol o gynhyrchu 3,000 litr ychwanegol o laeth yn ystod eu hoes, o’i gymharu â’r rhai sy’n lloia rhwng 30 a 34 mis oed (Froidmont et al 2013).

Dywed Mr Evans ei fod yn bwriadu dal ati gyda’r cyfraddau bwydo uwch a bydd yn parhau i bwyso’r heffrod bob mis.

Mae pwyso rheolaidd wedi caniatáu dosio mwy cywir ar gyfer llyngyr, ac am fod yr heffrod yn cael eu handlo’n fwy rheolaidd, mae cloffni a chlefydau eraill yn cael eu canfod yn gynt.

Mae natur yr heffrod wedi gwella hefyd yn sgil yr handlo – mae heffrod llaethiad cyntaf yn fwy dedwydd yn y parlwr godro yn ôl Mr Evans.

Ychwanega bod cael llai o stoc ifanc ar y fferm hefyd yn golygu bod y gwaith rheoli stoc o ddydd i ddydd yn haws.

Dywed Mr Evans mai HerdAdvance oedd yr ysgogiad oedd ei angen arno i fynd i’r afael â’i broblemau’n magu heffrod.

“Rhoddodd y cymorth a’r anogiad yr hyder imi wneud y newidiadau,’’ meddai.

Lawrlwythwch ein canllaw InCalf ar gyfer ffermwyr Prydeinig sy’n lloia trwy’r flwyddyn

Lawrlwythwch ein canllaw InCalf ar gyfer ffermwyr Prydeinig sy’n lloia mewn bloc

Sectors:

×