Gall newidiadau bach gael effaith fawr ar iechyd stoc ifanc

Tuesday, 27 October 2020

Trwy newid ychydig ar ei siediau lloi, mae’r ffermwr Marc Evans wedi gostwng nifer yr achosion o niwmonia ac wedi gwella iechyd ei stoc ifanc gyfan.

Mae Marc Evans yn rheoli buches o 170 o fuchod sy’n lloia mewn bloc yn yr hydref yn Upper Maen, Meifod.  Ddwy flynedd yn ôl, roedd niwmonia ymhlith lloi yn broblem sylweddol ar y fferm, gyda 30 o achosion y flwyddyn a chyfradd marwolaethau o 2-3% yn ystod gaeaf 2018/19.

Mae’r fferm yn un o 500 o ffermydd a ddewiswyd gan AHDB i gymryd rhan yn y prosiect HerdAdvance, sy’n anelu at helpu ffermwyr llaeth yng Nghymru i wella’u proffidioldeb a’u perfformiad drwy ganolbwyntio ar wella’u dulliau o reoli iechyd y fuches a chlefydau.

Yng Ngorffennaf 2019, trefnodd y prosiect bod David Ball, Uwch Reolwr yr Amgylchedd ac Adeiladau, yn ymweld â’r fferm i wneud argymhellion ar gyfer newid yr adeiladau.

Yn dilyn gwerthusiad trylwyr o’r siediau lloi, awgrymodd David rai newidiadau strwythurol y gellid eu gwneud i wella’r llif awyr ac awyru’r adeilad yn well.  Byddai hyn yn ei dro’n lleihau’r lleithder a’r her o du pathogenau clefydau, yn enwedig y rhai sy’n achosi niwmonia.

Gan ddilyn cyngor David, aeth Marc ati i fwrw dwy wal i lawr a symud dwy haenen o flociau concrid i gynyddu’r llif awyr drwy’r sied.  Yn ôl David roedd ochr y sied eisoes wedi’i chysgodi’n dda oherwydd byddai’r llechwedd yn y cefn yn ei hamddiffyn rhag y tywydd mwyaf garw.

Meddai Marc: “Yn ystod ei ymweliad tynnodd David Ball fy sylw at y newidiadau allweddol oedd eu hangen. Mi ddarparodd David wybodaeth ardderchog ac roedd ei gyngor yn wych.  Mae’n dangos nad oes angen ichi wario lot o arian, beth sy’n bwysig yw cael y cyngor iawn ar y fferm.”

O ganlyniad i’r newidiadau hyn, mae nifer yr achosion o niwmonia ymhlith y stoc ifanc wedi lleihau.  Mae’r gyfradd marwolaethau wedi gostwng hefyd ac mae iechyd y lloi wedi gwella.  Erbyn hyn mae gan y fferm gynllun brechu drwy’r trwyn ar gyfer niwmonia, i amddiffyn y lloi ymhellach.

Dywed Jack Thomas, Rheolwr Cyfnewid Gwybodaeth Iechyd Anifeiliaid y fferm:  “Gall y newidiadau lleiaf ar fferm wneud y gwahaniaeth mwyaf.  Mae gweithio gyda Marc wedi dangos nad oes raid ichi wario arian bob tro i gael effaith bositif ar iechyd eich stoc ifanc, dim ond bod yn barod i wneud newidiadau lle bo angen.”

I gael amrywiaeth o adnoddau ar niwmonia mewn lloi, gan gynnwys fideos a phodlediadau, ewch i’n gwe-dudalen ar ahdb.org.uk/calf-pneumonia.

Mae HerdAdvance yn rhan o’r Rhaglen Gwella’r Sector Llaeth pum mlynedd, a ariannir gan Lywodraeth Cymru a’r Undeb Ewropeaidd.

I gael gwybod mwy am y prosiect HerdAdvance, ewch i’n gwe-dudalen benodedig ar ahdb.org.uk/herdadvance.

 

Sectors:

×