- Home
- Events
- Pwllheli: Lansiad Fferm Laeth Strategol Cefn Gwyn – Bridio i wneud pob buwch yn broffidiol
Pwllheli: Lansiad Fferm Laeth Strategol Cefn Gwyn – Bridio i wneud pob buwch yn broffidiol
Ymunwch â ni ar gyfer lansiad Fferm Laeth Strategol newydd AHDB, lle byddwn yn cyflwyno ein Ffermwyr Llaeth Strategol newydd, Tegid a Hannah Williams o Bwllheli.
Yn ogystal â chyflwyniad i gefndir y fferm, gan gynnwys taith o’i hamgylch, byddwn yn trafod sut i wella buches drwy gynyddu dealltwriaeth o eneteg.
Bydd y rhaglen tair blynedd hon yn canolbwyntio ar wella’r busnes – ond er mwyn gwneud cynnydd, rhaid ichi yn gyntaf wybod ble rydych chi arni ar hyn o bryd. Felly, pa offer sydd ar gael i’ch helpu i fesur a meincnodi perfformiad eich buches?
Gyda chostau mewnbwn yn dynn a llafur yn brin, rhaid i bob buwch ar eich fferm gyfrannu at yr elw sylfaenol. Mae deall pa anifeiliaid sy’n gwneud elw, a pha rai sy’n cael eu cario, yn fwy hanfodol nag erioed.
Bydd y cyfarfod yn cynnwys
- Sut y gall mynegai bridio helpu buchesi i nodi a chanolbwyntio ar eu hanifeiliaid mwyaf proffidiol, gyda Phennaeth Geneteg Anifeiliaid AHDB, Marco Winters
- Rôl genomeg a sut y gall helpu i wneud gwell penderfyniadau bridio
- Gweledigaeth hirdymor Tegid a Hannah ar gyfer y fferm a’r amcanion dros y tair blynedd nesaf fel rhan o’r rhwydwaith Ffermydd Llaeth Strategol
- Taith o amgylch y fferm a chyfle i ddysgu mwy gan Tegid a Hannah am eu busnes a’u ffigurau perfformio
P’un ai ydych chi eisoes yn tracio data genetig neu ar fin dechrau arni, bydd y cyfarfod hwn yn cynnig offer a syniadau ymarferol, seiliedig ar ymchwil, i’ch helpu i wella effeithlonrwydd a phroffidioldeb eich busnes.
Am fferm Cefn Gwyn
Mae Cefn Gwyn ym Mhwllheli yn cael ei reoli gan Tegid a Hannah Williams. Mae’r fferm 81 hectar yn godro 300 o fuchod croes mewn parlwr saethben 24/48, gan gynhyrchu 5,000 o litrau y fuwch ar gyfartaledd, gyda 3.88% protein a 5.21% braster menyn.
Topics:
Sectors:
If you have any questions about this event, please contact us using the details below.
