Maximising Grass Silage Quality

Past Event

Wednesday, 10 February 2021

1:00pm - 2:15pm


Webinar recording

** Sgroliwch i lawr am y Gymraeg **

Join us for this webinar to learn about the principles and benefits of producing high-quality silage at Bodysgaw Isa, home to an autumn calving herd in Denbighshire.

High-quality silage is key to any dairy cows’ ability to milk and perform well throughout the year. Offering flexibility when grazing conditions are adverse, good quality, high digestible and high energy silage, made early in the season can be your best insurance policy against poor weather. It reduces your requirement for purchased concentrate feed, boosting milk solids and overall yields from homegrown forage.

In this session, you will hear about the practicalities, key processes, and targets in producing high-quality silage for your cows and youngstock with the support of Dave Davies, of Silage Solutions.

In this session you will learn about:

  • Multi cut systems; the way forward? The impact of growth stage at cutting on silage quality
  • Using silaging as a tool to manage grazing platform quality
  • Managing the crop for minimal losses; from standing grass to feeding out
  • The foundations of achieving good silage preservation
  • The key measures of silage nutritional value fed and cow performance

 

This project has received funding through the Welsh Government Rural Communities - Rural Development Programme 2014-2020, which is funded by the European Agricultural Fund for Rural Development and the Welsh Government. It is supported in Wales by Farming Connect.

Booking Details

Date:              Wednesday 10th February

Time:             1.00pm to 2.15pm

Register for your place for this online webinar today 

For more information regarding the event please call Marie Powell, Strategic Dairy Farm Knowledge Exchange Manager for Wales on 07776 660810.

 

About Dave Davies – Silage Solutions

Having spent 17 years as a senior scientist at IGER Aberystwyth, Dave now provides consultancy on all aspects of silage across the UK and Europe.  He also undertakes research and trial work whilst developing new products and tools to assist farmers and contractors in silage making.

 

About Bodysgaw Isa

Bodysgaw Isa is a 185ha (457ac), all grass tenanted farm on the Cefn Estate, in Conwy. Farmed by the Owen family since 1939, they run an autumn block calving herd which is comprised of 375 New Zealand type Friesian Crossbreds, producing 6,788L/cow and 568kg MS/cow. All cows calve down on grass, with low incidence rates of milk fever. Calving begins on 1st September, with 93% of cows calved within 8 weeks. Milk is sold through Arla.

 

With a grazing platform of 103ha (255ac), Arthur aims to graze from February until late November. All replacements are home reared, with surplus livestock sold. The farm operates with minimal machinery and extensive use of contractors.

 

Over the next 3 years AHDB will help Bodysgaw achieve some goals which include; to fine tune the business to profitably raise milk production from forage (grass and silage), control and reduce Johne’s and Neospora and upgrade slurry storage and utilisation on farm.

 

Find out more about Bodysgaw Isa’s story by visiting www.ahdb.org.uk/farm-excellence/Bodysgaw-Isa or get the latest updates by searching for #SDFBodysgawIsa on Twitter.

 

About Strategic Dairy Farms

Strategic dairy farms help farmers learn from each other through regular on-farm meetings where we will share key performance data and showcase what the best farmers are doing.

 

They form part of the Optimal Dairy Systems programme which aims to help dairy farmers lower costs and increase efficiency by focusing on either a block or all-year-round calving system.

 

The growing network of strategic dairy farms have calculated key performance indicators (KPIs) for their enterprises which are shared at meetings and published online. These are physical and financial performance measures that are critical to success. Farmers can benchmark their businesses against these KPIs and identify areas for improvement.

 

Follow the programme and find other local SDFs at www.ahdb.org.uk/farm-excellence/dairy

Cael Silwair Glaswellt o’r Ansawdd Gorau Posib

Ymunwch â ni yn y weminar hon i ddysgu am egwyddorion a buddiannau cynhyrchu silwair o ansawdd uchel ar fferm Bodysgaw Isa, sy’n gartref i fuches sy’n lloia’n yr hydref yn Sir Ddinbych.

Mae silwair o ansawdd uchel yn allweddol er mwyn i fuchod llaeth allu godro a pherfformio’n dda trwy’r flwyddyn gyfan.  Gan gynnig hyblygrwydd pan fydd yr amodau pori’n anffafriol, gall silwair safonol, egni uchel, hawdd ei dreulio, a wnaed yn gynnar yn y tymor, fod yn bolisi yswiriant ardderchog yn erbyn tywydd gwael.  Mae’n golygu bod angen ichi brynu llai o ddwysfwyd, ac mae’n cynyddu’r cynnyrch solet yn eich llaeth a’ch lefelau cynhyrchu cyffredinol o borthiant cartref.

Yn y sesiwn hon byddwch yn clywed am agweddau ymarferol, prosesau allweddol, a thargedau cynhyrchu silwair o ansawdd uchel ar gyfer eich buchod a’ch stoc ifanc, gyda chymorth Dave Davies, Silage Solutions.

Yn y sesiwn hon byddwch yn dysgu am y canlynol:

  • Systemau aml-doriad, y ffordd ymlaen? Effaith uchder y glaswellt ar adeg torri ar  ansawdd y silwair
  • Defnyddio’r broses o wneud silwair fel arf i reoli ansawdd y platfform pori
  • Rheoli’r cnwd i golli cyn lleied â phosib, o’r glaswellt yn y cae i fwydo tu allan
  • Sylfeini dulliau da o gadw silwair
  • Mesurau allweddol gwerth maethegol y silwair a fwydir, a pherfformiad y fuwch

 

Mae’r prosiect hwn wedi derbyn cyllid drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariannir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.  Fe’i cefnogir yng Nghymru gan Cyswllt Ffermio.

Manylion Archebu Lle

Dyddiad:       Dydd Mercher 10fed Chwefror

Amser:          1.00pm i 2.15pm

Cofrestrwch i gael lle ar y weminar ar-lein hon heddiw 

I gael mwy o wybodaeth am y digwyddiadau ffoniwch Marie Powell, Rheolwr Cyfnewid Gwybodaeth Ffermydd Llaeth Strategol Cymru ar 07776 660810.

Am Dave Davies – Silage Solutions

Ar ôl treulio 17 mlynedd fel uwch wyddonydd yn IGER Aberystwyth, mae Dave erbyn hyn yn ymgynghori ar bob agwedd o silwair ar draws y DU ac Ewrop.  Mae hefyd yn cynnal gwaith ymchwil a threialu ac yn datblygu cynnyrch ac offer newydd i gynorthwyo ffermwyr a chontractwyr i wneud silwair.

Am Bodysgaw Isa

Mae Bodysgaw Isa’n fferm denant o 185 hectar (457 acer) o dir pori sy’n  rhan o Ystâd Cefn yng Nghonwy.  Mae wedi’i ffermio gan deulu’r Oweniaid ers 1939, ac maent yn cadw buches sy’n lloia mewn bloc yn yr hydref, sy’n cynnwys 375 o fuchod Friesian croes math Seland Newydd sy’n cynhyrchu 6,788 litr o laeth y fuwch a 568kg o gynnyrch llaeth solet y fuwch.  Mae’r holl fuchod yn lloia yn yr awyr agored, ac mae nifer yr achosion o dwymyn llaeth yn isel.  Mae’r lloia’n dechrau ar 1af Medi, ac mae 93% o’r buchod wedi lloia o fewn 8 wythnos.  Gwerthir y llaeth drwy Arla.

Gyda phlatfform pori o 103 hectar (255 acer), nod Arthur yw pori o Chwefror tan tua diwedd Tachwedd.  Mae’r holl anifeiliaid  amnewid yn cael eu magu ar y fferm, a gwerthir unrhyw stoc sydd dros ben.  Mae’r fferm yn defnyddio cyn lleied â phosib o beiriannau a gwneir defnydd helaeth o gontractwyr.

Dros y tair blynedd nesaf bydd AHDB yn helpu Bodysgaw i gyflawni rhai o’i nodau, sy’n cynnwys mireinio’r busnes a chynyddu’r elw drwy gynhyrchu mwy o laeth o borthiant (porfa a silwair), rheoli a lleihau achosion o glefyd Johne a Neospora, a gwella’r dulliau o storio a defnyddio slyri.

Dysgwch fwy am stori Bodysgaw Isa drwy fynd i www.ahdb.org.uk/farm-excellence/Bodysgaw-Isa neu chwiliwch am #SDFBodysgawIsa ar Twitter i gael yr hanes diweddaraf.

Am Ffermydd Llaeth Strategol

Mae ffermydd llaeth strategol yn helpu ffermwyr i ddysgu oddi wrth ei gilydd drwy gyfarfodydd rheolaidd ar ffermydd, lle rhennir data perfformiad allweddol ac arddangosir beth mae’r ffermwyr gorau yn ei wneud.

Maent yn ffurfio rhan o’r rhaglen ‘Optimal Dairy Systems’, sy’n anelu at helpu ffermwyr llaeth i leihau costau a chynyddu effeithlonrwydd, drwy ganolbwyntio ar un ai system lloia mewn bloc tynn neu system lloia trwy’r flwyddyn.

Mae gan ein rhwydwaith cynyddol o ffermydd llaeth strategol ddangosyddion perfformiad allweddol cyfrifedig ar gyfer eu mentrau, a rennir mewn cyfarfodydd, ac a gyhoeddir ar-lein.  Mae’r rhain yn mesur perfformiadau corfforol ac ariannol sy’n hanfodol er mwyn llwyddo.  Gall ffermwyr feincnodi eu busnesau yn erbyn y dangosyddion perfformiad allweddol hyn i’w helpu i nodi meysydd i’w gwella.

Dilynwch y rhaglen a dod o hyd i Ffermydd Llaeth Strategol eraill yn eich ardal ar www.ahdb.org.uk/farm-excellence/dairy

Topics:

Sectors:


If you have any questions about this event, please contact us using the details below.

E ke.events@ahdb.org.uk

T 01904 771216


Other Events

×