Reducing dairy electricity costs

Past Event

Wednesday, 17 March 2021

1:00pm - 2:30pm


Join us for this webinar to learn about the principles of good energy efficiency with Strategic Dairy Farm hosts, John and Anna Booth from Rhual Dairy, home to an all-year-round calving herd in Mold.

Electricity typically represents 4% of a dairy farm variable costs, so understanding and reducing consumption can lead to significant savings. Making informed business decisions in the field of energy technology will help improve both the profitability and environmental sustainability on your farm.

In this webinar, we will explore the basic principles of good energy efficiency practices. You will hear the latest technical information on energy saving techniques and technologies.

Jointly delivered with AHDB GrowSave, you will hear from NFU Energy’s Jon Swain about the basic principles of good energy efficiency and learn the practicalities of different strategies to improve your energy efficiency.

In this session you will learn about:

  • Practical methods to improve energy efficiency
  • How to optimise milk cooling and water heating
  • What role a variable speed drive can have
  • Investing in energy efficient technologies: payback time (a cost benefit analysis)
  • What are the options available for renewable generations and energy storage?

This project has received funding through the Welsh Government Rural Communities - Rural Development Programme 2014-2020, which is funded by the European Agricultural Fund for Rural Development and the Welsh Government. It is supported in Wales by Farming Connect.

For more information regarding the event please call Marie Powell, Strategic Dairy Farm Knowledge Exchange Manager for Wales on 07776 660810.

About Jon Swain – NFU Energy

Jon is an experienced energy consultant, having spent 15+ years advising farmers and growers in energy efficiency practices and renewable energy options including managing and delivering projects such as a GrowSave and the DDC 250 dairy farm audits programme. Jon will use data and information from the Rhual Dairy, combined with knowledge and thinking to give practical actions for improvements.

About AHDB GrowSave

GrowSave is a knowledge exchange programme helping both farmers and growers save energy. It aims to be your one-stop shop for all things energy related. It offers the latest information to help farmers and grower increase efficiencies and save energy. Find out more by visiting ahdb.org.uk/GrowSave.

About Rhual Dairy

Rhual Dairy has operated as share farming agreement between RFP (Rhual Farm Partnership) and John and Anna Booth since 2001. They have 336 Holstein Friesian cows calving all year around, with cows grazing during the summer, averaging 8,472L.   

All replacement heifers are home reared and calve at 24months. Total area farmed is 220 hectares, mainly grass, maize and a small area of combinable cereals. All land is within a nitrate vulnerable zone (NVZ). 

Find out more about Rhual Dairies story by visiting https://ahdb.org.uk/farm-excellence/Rhual-Dairy or get the latest updates by searching for #SDFRhual on Twitter.

 

About Strategic Dairy Farms

Strategic dairy farms help farmers learn from each other through regular on-farm meetings where we will share key performance data and showcase what the best farmers are doing.

They form part of the Optimal Dairy Systems programme which aims to help dairy farmers lower costs and increase efficiency by focusing on either a block or all-year-round calving system. 

The growing network of strategic dairy farms have calculated key performance indicators (KPIs) for their enterprises which are shared at meetings and published online. These are physical and financial performance measures that are critical to success. Farmers can benchmark their businesses against these KPIs and identify areas for improvement.

Follow the programme and find other local SDFs at www.ahdb.org.uk/farm-excellence/dairy

Lleihau Costau Trydan Fferm Laeth

Ymunwch â ni ar gyfer y weminar hon i ddysgu am egwyddorion effeithlonrwydd ynni da gyda’r Ffermwyr Llaeth Strategol John ac Anna Booth o Rhual Dairy, sy’n gartref i fuches sy’n lloia trwy’r flwyddyn yn Yr Wyddgrug.

Mae trydan fel arfer yn cyfrif am 4% o gostau newidiol fferm laeth, felly mi all deall a defnyddio llai ohono arwain at arbedion sylweddol.  Bydd gwneud penderfyniadau busnes gwybodus ym maes technoleg ynni’n helpu i wella proffidioldeb a chynaliadwyedd amgylcheddol ar eich fferm.

Yn y weminar hon, byddwn yn edrych ar egwyddorion sylfaenol arferion effeithlonrwydd ynni da.  Byddwch yn cael yr wybodaeth dechnegol ddiweddaraf ar dechnegau a thechnolegau arbed ynni.

Mewn gweminar a ddarperir ar y cyd ag AHDB GrowSave, byddwch yn clywed gan Jon Swain o NFU Energy am egwyddorion sylfaenol effeithlonrwydd ynni da, ac yn dysgu am agweddau ymarferol strategaethau gwahanol i wella’ch effeithlonrwydd ynni.

Yn y sesiwn hon byddwch yn dysgu:

  • Dulliau ymarferol o wella effeithlonrwydd ynni
  • Sut i wneud y mwyaf o systemau oeri llaeth a thwymo dŵr
  • Pa rôl y gall gyriant cyflymder amrywiol ei chwarae
  • Buddsoddi mewn technolegau effeithlonrwydd ynni: yr enillion (dadansoddi cost a budd)
  • Pa opsiynau sydd ar gael o ran cynhyrchu ynni adnewyddu a storio ynni?

Mae’r prosiect hwn wedi derbyn cyllid drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariannir drwy Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.  Caiff ei gefnogi yng Nghymru gan Cyswllt Ffermio.

I gael mwy o wybodaeth am y digwyddiad ffoniwch Marie Powell, Rheolwr Cyfnewid Gwybodaeth Ffermydd Llaeth Strategol Cymru ar 07776 660810.

Am Jon Swain – NFU Energy

Mae Jon yn ymgynghorydd ynni profiadol sydd wedi treulio dros 15 mlynedd yn cynghori ffermwyr a thyfwyr ar arferion effeithlonrwydd ynni ac opsiynau ynni adnewyddadwy, gan gynnwys rheoli a chyflenwi prosiectau megis GrowSave, a rhaglen archwilio 250 o ffermydd llaeth y Ganolfan Datblygu Llaeth (DDC).  Bydd Jon yn defnyddio data a gwybodaeth o Rhual Dairy ac yn ei gyfuno â gwybodaeth a ffordd o feddwl, er mwyn argymell camau ymarferol i sicrhau gwelliannau.

Am GrowSave AHDB

Mae GrowSave yn rhaglen cyfnewid gwybodaeth sy’n helpu ffermwyr a thyfwyr i arbed ynni.  Ei nod yw bod yn siop un stop ar gyfer popeth sy’n gysylltiedig ag ynni.  Mae’n cynnig yr wybodaeth ddiweddaraf i helpu ffermwyr a thyfwyr i fod yn fwy effeithlon ac arbed ynni.  Dysgwch fwy drwy fynd i ahdb.org.uk/GrowSave.

Am Rhual Dairy

Mae Rhual Dairy wedi gweithredu fel cytundeb ffermio cyfran rhwng Partneriaeth Fferm Rhual (RFP) a John ac Anna Booth ers 2001.  Mae ganddynt 336 o fuchod Holstein Friesian sy’n lloia trwy’r flwyddyn, gyda’r buchod yn pori dros yr haf ac yn cynhyrchu 8,472 litr ar gyfartaledd. 

Mae’r holl heffrod amnewid yn cael eu magu ar y fferm a’u lloia’n 24 mis oed.  Mae’r ardal a ffermir yn ymestyn dros 220 hectar, sy’n borfa ac india-corn yn bennaf, ynghyd ag ardal fach o gnydau grawn a gynaeafir â chombein.  Mae’r holl dir o fewn parth perygl nitrad (NVZ).

Dysgwch fwy am hanes Rhual Dairy drwy fynd i https://ahdb.org.uk/farm-excellence/Rhual-Dairy neu i gael yr wybodaeth ddiweddaraf chwiliwch am #SDFRhual ar Twitter.

Am Ffermydd Llaeth Strategol

Mae ffermydd llaeth strategol yn helpu ffermwyr i ddysgu oddi wrth ei gilydd drwy gyfarfodydd rheolaidd ar ffermydd, lle rhennir data perfformiad allweddol ac arddangosir beth mae’r ffermwyr gorau yn ei wneud.

Maent yn ffurfio rhan o’r rhaglen Systemau Llaeth Gorau (‘Optimal Dairy Systems’), sy’n anelu at helpu ffermwyr llaeth i leihau costau a chynyddu effeithlonrwydd, drwy ganolbwyntio ar un ai system lloia mewn bloc neu system lloia trwy’r flwyddyn.

Mae gan ein rhwydwaith cynyddol o ffermydd llaeth strategol ddangosyddion perfformiad allweddol cyfrifedig ar gyfer eu mentrau, a rennir mewn cyfarfodydd, ac a gyhoeddir ar-lein.  Mae’r rhain yn mesur perfformiadau corfforol ac ariannol sy’n hanfodol er mwyn llwyddo.  Gall ffermwyr feincnodi eu busnesau yn erbyn y dangosyddion perfformiad allweddol hyn a nodi meysydd i’w gwella.

Dilynwch y rhaglen a dod o hyd i Ffermydd Llaeth Strategol eraill lleol ar www.ahdb.org.uk/farm-excellence/dairy

Topics:

Sectors:


If you have any questions about this event, please contact us using the details below.

E marie.powell@ahdb.org.uk

T 07776 660810


Other Events

×