Sir Ddinbych: Paratoi ar gyfer llwyddiant

Past Event - booking closed

Wednesday, 12 November 2025

10:15am - 2:30pm

Bod Erw, The Roe, Llanelwy, Sir Ddinbych

LL17 0LA


Mae’r bobl sydd ynghlwm â’ch busnes yn allweddol i’w lwyddiant. Boed yn deulu, staff, neu bartneriaid busnes, mae cael y meddylfryd iawn, disgwyliadau clir, a chyfathrebu da yn sylfaen hanfodol i fenter gydnerth a phroffidiol. Gall deall sut mae pobl yn ymateb dan bwysau, a sut i reoli disgwyliadau yn effeithiol wneud y gwahaniaeth rhwng goroesi a ffynnu.

Ymunwch â ni i ddarganfod sut y mae gwydnwch mewn pobl yn creu busnesau gwydn. Bydd ein siaradwraig wadd, Nollaig Heffernan, Ymgynghorydd Rheoli Annibynnol, yn trafod sut y mae rheoli disgwyliadau yn allweddol i adeiladu meddylfryd cadarn. Trwy ddeall sut rydym yn ymateb dan bwysau, a dysgu meddwl yn rhesymegol yn hytrach na dibynnu ar ymatebion greddfol, gall busnesau baratoi yn well ar gyfer llwyddiant a chynaliadwyedd.

Bydd y cyfarfod yn cynnwys:

  • Deall sut y mae rheoli disgwyliadau yn osgoi siom ac yn gwella’r cyfathrebu.
  • Deall sut y mae straen a phwysau yn dylanwadu ar ymddygiad – a sut i newid eich ymateb.
  • Sut i feddwl yn rhesymegol er mwyn gwneud penderfyniadau gwell a mwy cytbwys.
  • Darganfod sut y mae pobl gwydn yn sylfaen i fusnesau gwydn a llwyddiannus.

Darllenwch y digwyddiad hwn yn Saesneg

Topics:

Sectors:


If you have any questions about this event, please contact us using the details below.

E james.hague@ahdb.org.uk

T 07792 289386


×