Sir Benfro: Paratoi ar gyfer llwyddiant
Mae’r bobl sydd ynghlwm â’ch busnes yn allweddol i’w lwyddiant. Boed yn deulu, staff, neu bartneriaid busnes, mae cael y meddylfryd iawn, disgwyliadau clir, a chyfathrebu da yn sylfaen hanfodol i fenter gydnerth a phroffidiol. Gall deall sut mae pobl yn ymateb dan bwysau, a sut i reoli disgwyliadau yn effeithiol wneud y gwahaniaeth rhwng goroesi a ffynnu.
Ymunwch â ni i ddarganfod sut y mae gwydnwch mewn pobl yn creu busnesau gwydn. Bydd ein siaradwraig wadd, Nollaig Heffernan, Ymgynghorydd Rheoli Annibynnol, yn trafod sut y mae rheoli disgwyliadau yn allweddol i adeiladu meddylfryd cadarn. Trwy ddeall sut rydym yn ymateb dan bwysau, a dysgu meddwl yn rhesymegol yn hytrach na dibynnu ar ymatebion greddfol, gall busnesau baratoi yn well ar gyfer llwyddiant a chynaliadwyedd.
Bydd y cyfarfod yn cynnwys:
- Deall sut y mae rheoli disgwyliadau yn osgoi siom ac yn gwella’r cyfathrebu.
- Deall sut y mae straen a phwysau yn dylanwadu ar ymddygiad – a sut i newid eich ymateb.
- Sut i feddwl yn rhesymegol er mwyn gwneud penderfyniadau gwell a mwy cytbwys.
- Darganfod sut y mae pobl gwydn yn sylfaen i fusnesau gwydn a llwyddiannus.
Topics:
Sectors:
If you have any questions about this event, please contact us using the details below.
T 07823 790440
