Pembrokeshire: Soils and swards for herbal ley longevity

Past Event - booking closed

Tuesday, 31 August 2021

10:45am - 1:00pm

Tyddyn yr Eglwys, Clydey, Llanfyrnach, Pembrokeshire

SA35 0AR


Join us for an on farm event to find out how Dylan and Hannah Harries are using herbal leys to increase longevity and promote healthy pasture. 

You will hear from Helen Mathieu, Germinal, and Jon Williams, The Soil Expert, who will discuss both ‘above ground’ and ‘below ground’ factors associated with maintaining a healthy herbal ley sward. Strategic dairy farm hosts, Dylan and Hannah Harries, will also share their experience of working with herbal leys. 

Herbal leys are an increasingly popular choice on dairy farms, but measuring and managing them is different to managing a straight rye-grass sward. Herbal leys and healthy soils can offer resilience in adverse weather, from droughts to downpours. They can also play a valuable environmental role on farms encouraging biodiversity and reducing reliance on chemical fertilisers. 

This will be an interactive conversation about what it takes to maintain a productive and diverse herbal ley in a dairy grazing rotation. The event will also cover: 

  • Aspects from the soil chemistry
  • The benefits of various rooting depths
  • The importance of the initial choice of species 

To help reduce the risk of Covid spread this meeting will be held entirely outside, without seating and will include a farm walk. A light lunch will be provided after the event at 1pm. 

To assist with biosecurity and conform to government guidelines please ensure outer clothing and vehicles are clean and that clean boots that can be disinfected are worn. Please note children under the age of 16 and dogs are not allowed at the event, even if they are staying in the car.

Health and Safety guidelines for AHDB Events

About Tyddyn yr Eglwys

Dylan and Hannah Harries have been operating as contract farmers at Tyddyn yr Eglwys since October 2013.  Owned by Kim and Bryony Petty, both the Petty’s and Harries’ have a stake within the herd.

Located in North East Pembrokeshire, Tyddyn yr Eglwys is a 283ha farm, of which 160ha is grazing platform. Dylan and Hannah aim to incorporate efficiencies into all aspects of the farm including a well-designed parlour allowing a high throughput of cows per hour.  After spending winter with access to the self-feed silage clamp adjacent to the cubicles, cows calve onto an outdoor calving pad during the spring, before moving to pasture when in milk.

This spring calving herd of 550 Friesian X Jerseys averages 5,800litres per cow per year at 4.80% butterfat and 3.80% protein.  All replacements are home reared, and the average age at first calving for 2019 was 21 months. To allow maximum access to good pasture and increase the production of milk from forage, there has been recent investment in tracks and troughs, silage clamps and slurry storage.  Dylan and Hannah also incorporate a herbal ley containing clover, plantain and chickory into their reseeding programme.

Learn more about Tyddyn yr Eglwys

About Strategic Dairy Farms

Strategic dairy farms help farmers learn from each other through regular on-farm meetings where we share key performance data and showcase what the best farmers are doing.

They form part of the Optimal Dairy Systems programme which aims to help dairy farmer’s lower costs and increase efficiency by focusing on either a block or all-year-round calving system.

The growing network of strategic dairy farms have calculated key performance indicators (KPIs) for their enterprises which are shared at meetings and published online. These are physical and financial performance measures that are critical to success. Farmers can benchmark their businesses against these KPIs and identify areas for improvement.

Explore our other strategic dairy farms

Priddoedd a thyweirch ar gyfer hirhoedledd gwndwn perlysiau 

Ymunwch â ni ar gyfer digwyddiad ar fferm i ganfod sut mae Dylan a Hannah Harries yn defnyddio  gwndwn perlysiau i gynyddu hirhoedledd a gwella iechyd y borfa. 

Byddwch yn clywed gan Helen Mathieu, Germinal, a Jon Williams, The Soil Expert, a fydd yn trafod y ffactorau ‘uwchlaw’ ac ‘islaw’r’ ddaear  sy’n gysylltiedig â chynnal gwndwn perlysiau iach.  Hefyd, bydd y ffermwyr llaeth strategol, Dylan a Hannah Harries, yn rhannu eu profiadau o weithio gyda gwndwn perlysiau. 

Mae gwndwn perlysiau’n ddewis gynyddol boblogaidd ar ffermydd llaeth, ond mae’r gwaith o’i fesur a’i reoli’n wahanol i reoli porfa rhygwellt yn unig.  Gall gwndwn perlysiau a phriddoedd iach gynnig gwydnwch yn ystod tywydd garw, o sychder mawr i law trwm.  Gall hefyd chwarae rôl amgylcheddol hanfodol ar ffermydd, gan annog bioamrywiaeth a lleihau dibyniaeth ar wrtaith cemegol. 

Mi fydd hon yn sgwrs ryngweithiol am ofynion cynnal gwndwn perlysiau cynhyrchiol ac amrywiol o fewn system pori mewn cylchdro.  Bydd y digwyddiad hefyd yn trafod: 

  • Agweddau ar gemeg y pridd
  • Buddiannau dyfnderoedd gwreiddio amrywiol
  • Pwysigrwydd y dewis gwreiddiol o rywogaethau 

I helpu i leihau’r perygl o ledaenu Covid, cynhelir y digwyddiad hwn yn gyfan gwbl yn yr awyr agored, heb unrhyw seddi, a bydd yn cynnwys taith gerdded o amgylch y fferm.  Darperir cinio ysgafn ar ôl y digwyddiad am 1pm. 

I gynorthwyo gyda bioddiogelwch ac i gydymffurfio â chanllawiau’r llywodraeth, a fyddech cystal â sicrhau bod eich dillad allanol a’r cerbyd yn lân, a’ch bod yn gwisgo esgidiau glân y gellir eu diheintio.  Sylwer na chaniateir plant dan 16 oed na chŵn yn y digwyddiad, hyd yn oed os ydyn nhw’n aros yn y car. 

Canllawiau Iechyd a Diogelwch Digwyddiadau AHDB

Am Tyddyn yr Eglwys 

Mae Dylan a Hannah Harries wedi bod yn ffermwyr contract yn Nhyddyn yr Eglwys ers Hydref 2013.  Mae’r fferm yn berchen i Kim a Bryony Petty, ac mae gan y naill gwpl a’r llall gyfran yn y fuches. 

Wedi’i lleoli yng Ngogledd Ddwyrain Sir Benfro, mae Tyddyn yr Eglwys yn fferm 283ha, gyda 160ha o hwnnw'n dir pori.  Nod Dylan a Hannah yw ymgorffori effeithlonrwydd ym mhob agwedd o’r fferm, gan gynnwys parlwr sydd wedi’i gynllunio’n dda i ganiatáu i nifer fawr o fuchod fynd trwyddo bob awr.  Ar ôl treulio’r gaeaf gyda mynediad at glamp silwair hunanfwydo gerllaw’r ciwbiclau, mae’r buchod yn lloia mewn ardal loia awyr agored yn y gwanwyn, cyn symud i’r borfa pan fyddant yn llaetha. 

Mae’r fuches hon o 550 o fuchod Friesian/Jersey croes, sy’n lloia’n y gwanwyn, yn cynhyrchu 5,800 litr y fuwch bob blwyddyn ar gyfartaledd, sy’n cynnwys 4.80% braster menyn a 2.80 protein.  Mae’r holl anifeiliaid amnewid yn cael eu magu ar y fferm, ac oedran cyfartalog lloia am y tro cyntaf yn 2019 oedd 21 mis.  I sicrhau’r mynediad gorau at borfa dda ac i gynhyrchu mwy o laeth o borfa, buddsoddwyd yn ddiweddar mewn traciau a chafnau, clampiau silwair a storfa slyri.  Mae Dylan a Hannah hefyd yn ymgorffori gwndwn perlysiau sy’n cynnwys meillion, llyriad a sicori yn eu rhaglen ail-hadu. 

Dysgwch fwy am Tyddyn yr Eglwys

 

Am Ffermydd Llaeth Strategol 

Mae ffermydd llaeth strategol yn helpu ffermwyr i ddysgu oddi wrth ei gilydd drwy gyfarfodydd rheolaidd ar ffermydd, lle rhennir data perfformiad allweddol ac arddangosir beth mae’r ffermwyr gorau yn ei wneud. 

Maent yn ffurfio rhan o’r rhaglen ‘Optimal Dairy Systems’, sy’n anelu at helpu ffermwyr llaeth i leihau costau a chynyddu effeithlonrwydd, drwy ganolbwyntio ar un ai system lloia mewn bloc neu system lloia trwy’r flwyddyn.

 Mae gan ein rhwydwaith cynyddol o ffermydd llaeth strategol ddangosyddion perfformiad allweddol cyfrifedig ar gyfer eu mentrau, a rennir mewn cyfarfodydd, ac a gyhoeddir ar-lein.  Mae’r rhain yn mesur perfformiadau corfforol ac ariannol sy’n hanfodol er mwyn llwyddo.  Gall ffermwyr feincnodi eu busnesau yn erbyn y dangosyddion perfformiad allweddol hyn i’w helpu i nodi meysydd i’w gwella. 

Archwiliwch ein ffermydd llaeth strategol eraill

Sectors:


If you have any questions about this event, please contact us using the details below.

E KE.Event@ahdb.org.uk

T 01904 771216


×