Dairy share farming agreements

Past Event

Thursday, 21 January 2021

1:00pm - 2:30pm


Webinar recording

Join us for this webinar with Matt Jackson from Penllech Bach to learn about share farm agreements, which offer a starting point for young people interested in running their own dairy business.

Matt will be joined by his business partner Dafydd Wynne-finch, bank manager Bryn Edmunds and Nerys Llewelyn Jones from Agri Advisor who will share their experience of share farming and contract agreements.

You’ll hear about the 50:50 share-milking agreement at Penllech Bach and the factors to create a successful venture. We’ll talk you through the legal structures, taxation and the pros and cons of different business venture options.

In this session you will learn more about:

  • Share Farming agreements
  • How Matt Jackson used share farming to progress in dairy farming
  • The legal aspects of share and contract farming
  • How Matt and Dafydd make their partnership work successfully
  • A bank manager perspective on successful ventures

Who should attend?

  • Farmers and young entrants with an interest in Contract Farming Agreement
  • Entrants seeking to get more than a wage in dairying
  • Landowners considering a contract farm agreement to maintain income and involvement but seeking to reduce work or retire
  • Those interested in the succession of a farming business

This project has received funding through the Welsh Government Rural Communities - Rural Development Programme 2014-2020, which is funded by the European Agricultural Fund for Rural Development and the Welsh Government.

Booking Details

Date:     Thursday 21st January

Time:    1.00pm – 2.30pm

Register for your place for this online webinar today or call the AHDB events team or email ke.events@ahdb.org.uk

For more information regarding the event please call Marie Powell, Strategic Dairy Farms Knowledge Exchange Manager for Wales on 07776 660810.

About Nerys Llewelyn Jones – Agri Advisor

Nerys Llewelyn Jones is the founder and Managing Partner of Agri Advisor. She is a solicitor specialising in agricultural and rural law and is a regular speaker on agricultural policy both in the UK and in Europe. Nerys gained a PhD in Sustainable Agriculture and lives with her family on a sheep and beef farm in Carmarthen. Nerys provides advice on all aspects of agricultural law and farm business planning.

About Bryn Edmunds – Agricultural Director at HSBC

Bryn Edmunds is the Agriculture Director for HSBC Bank covering North Wales. Bryn is married with three children. A dairy farmer’s son, from Ruthin, Bryn has worked for HSBC for over 30 years. He is part of HSBC’s UK specialist agriculture team who supports farmers to grow their businesses and to invest in them.

About Penllech Bach

Penllech Bach is a 100ha all grass farm owned by Dafydd Wynne-Finch and managed by Matthew Jackson on a 50:50 share-milking agreement which began in 2013. Alongside Matthew, his teammates Ellie and Bethan both work on the farm full-time.

The Spring block calving her comprises of 370 New Zealand type Friesian Crossbreds, producing 5,500L/cow and 450kg MS/cow. Calving starts on 25th January, with mid-point achieved 14 days later. Fertility is high, with only a 5.2% empty rate in 2019.

Find out more about Penllech Bach’s story or get the latest updates by searching for #SDFPenllechBach on Twitter.

About Strategic Dairy Farms

Strategic Dairy Farms aim to help farmers learn from each other through regular on-farm meetings where we will share key performance data and showcase what the best farmers are doing.

They form part of the Optimal Dairy Systems programme which aims to help dairy farmers reduce costs and increase efficiency by focusing on either a tight block or an all-year-round calving system.

The growing network of Strategic Dairy Farms has calculated KPIs for their enterprises which are shared at meetings and published online. These are physical and financial performance measures that are critical to success. Farmers can benchmark their businesses against these KPIs to help identify areas for improvement.

Follow the programme, explore the learning and find other local SDFs

Gweminar Fferm Laeth Strategol

Cyfleoedd Ffermio Llaeth Cyfran

Ymunwch â ni ar gyfer y weminar hon gyda Matt Jackson, Penllech Bach, ddysgu am gytundebau ffermio cyfrani, sy’n cynnig man cychwyn ar gyfer pobl ifanc sydd â diddordeb mewn rhedeg eu busnes llaeth eu hunain.

Bydd Matt yn cael cwmni ei bartner busnes Dafydd Wynne-Finch, y rheolwr banc Bryn Edmunds, a Nerys Llewelyn Jones, Agri Advisor, a fydd yn rhannu eu profiad o gytundebau ffermio cyfran a chytundebau contract.

Byddwch yn clywed am y cytundeb godro cyfran 50:50 ar fferm Penllech Bach, a ffactorau creu menter lwyddiannus.  Byddwn yn mynd â chi drwy’r strwythurau cyfreithiol, trethi a manteision ac anfanteision opsiynau menter busnes gwahanol.

Yn y sesiwn hon byddwch yn dysgu mwy am:

  • Gytundebau Ffermio Cyfran
  • Sut y defnyddiodd Matt Jackson ffermio cyfran i ddod yn ffermwr llaeth
  • Agweddau cyfreithiol ffermio cyfran a ffermio ar gontract
  • Sut mae Matt a Dafydd yn gwneud i’w partneriaeth lwyddo
  • Persbectif rheolwr banc ar fentrau llwyddiannus

Ar gyfer pwy?

  • Ffermwyr a newydd-ddyfodiaid sydd â diddordeb mewn Cytundeb Ffermio ar Gontract
  • Newydd-ddyfodiaid sydd am gael mwy na chyflog o ffermio llaeth
  • Tirfeddianwyr sy’n ystyried Cytundeb Ffermio ar Gontract i ddal ati i gael incwm a chymryd rhan, ond sydd am leihau llwyth gwaith neu ymddeol
  • Olyniaeth busnes ffermio

Manylion Archebu Lle

Dyddiad:  Dydd Iau 21ain  Ionawr

Amser:    1.00pm – 2.30pm

Cofrestrwch ar gyfer y weminar ar-lein hon heddiw – (dolen i blatfform archebu’r weminar)

I gael mwy o wybodaeth am y digwyddiad ffoniwch Marie Powell, Rheolwr Cyfnewid Gwybodaeth Ffermydd Llaeth Strategol Cymru ar 07776 660810.

Am Nerys Llewelyn Jones – Agri Advisor

Nerys Llewelyn Jones yw sylfaenydd a Phartner Rheoli Agri Advisor. Mae’n gyfreithiwr sy’n arbenigo mewn cyfraith amaethyddol a gwledig, ac mae’n siarad yn rheolaidd ar bolisi amaethyddol yn y DU ac yn Ewrop.  Mae gan Nerys PhD mewn Amaethyddiaeth Gynaliadwy ac mae’n byw gyda’i theulu ar fferm ddefaid a bîff yng Nghaerfyrddin.  Mae Nerys yn darparu cyngor ar bob agwedd o gyfraith amaethyddol a chynllunio busnesau fferm.

Am Bryn Edmunds – Cyfarwyddwr Amaethyddol gyda HSBC

Bryn Edmunds yw Cyfarwyddwr Amaethyddol Banc HSBC yng Ngogledd Cymru.  Mae Bryn yn briod gyda thri o blant.  Yn fab i ffermwr llaeth o Ruthun, mae Bryn wedi gweithio i HSBC am dros 30 mlynedd.  Mae’n rhan o dîm amaethyddol arbenigol HSBC yn y DU, sy’n cynorthwyo ffermwyr i dyfu eu busnesau a buddsoddi ynddyn nhw.

Am Penllech Bach

Mae Penllech Bach yn fferm  laswellt 100ha sy’n berchen i Dafydd Wynne-Finch ac sy’n cael ei rheoli gan Matthew Jackson ar gytundeb godro cyfran 50:50 a ddechreuodd yn 2013.  Ochr yn ochr â Matthew, mae ei gydweithwyr Ellie a Bethan yn gweithio’n amser llawn ar y fferm.

Mae’r fuches, sy’n lloia mewn bloc yn y gwanwyn, yn cynnwys 370 o fuchod croesfrid Friesian math Seland Newydd, sy’n cynhyrchu 5,500 litr y fuwch a 450kg CLlS y fuwch.  Mae’r lloia’n dechrau ar 25ain Ionawr a chyrhaeddir hanner ffordd 14 diwrnod yn ddiweddarach.  Mae ffrwythlondeb yn uchel, gyda 5.2% yn unig o fuchod gwag yn 2019.

Dysgwch fwy am stori Penllech Bach drwy fynd i www.ahdb.org.uk/Penllech-Bach  neu gallwch weld eu newyddion diweddaraf drwy fynd i Twitter a chwilio am #SDFPenllechBach

Am Ffermydd Llaeth Strategol

Mae ffermydd llaeth strategol yn helpu ffermwyr i ddysgu oddi wrth ei gilydd drwy gyfarfodydd rheolaidd ar ffermydd, lle rhennir data perfformiad allweddol ac arddangosir beth mae’r ffermwyr gorau yn ei wneud.

Maent yn ffurfio rhan o’r rhaglen Systemau Llaeth Gorau (‘Optimal Dairy Systems’), sy’n anelu at helpu ffermwyr llaeth i leihau costau a chynyddu effeithlonrwydd, drwy ganolbwyntio ar un ai system lloia mewn bloc neu system lloia trwy’r flwyddyn.

Mae gan ein rhwydwaith cynyddol o ffermydd llaeth strategol ddangosyddion perfformiad allweddol cyfrifedig, a rennir mewn cyfarfodydd, ac a gyhoeddir ar-lein.  Mae’r rhain yn mesur perfformiadau corfforol ac ariannol sy’n hanfodol er mwyn llwyddo.  Gall ffermwyr feincnodi eu busnesau yn erbyn y dangosyddion perfformiad allweddol hyn a nodi meysydd i’w gwella.

Dilynwch y rhaglen a dod o hyd i Ffermydd Llaeth Strategol eraill yn eich ardal chi ar www.ahdb.org.uk/farm-excellence/dairy

Topics:

Sectors:


If you have any questions about this event, please contact us using the details below.

E ke.events@ahdb.org.uk

T 01904 771216


Other Events

×