Ceredigion: Rheoli clefyd Johne – Elw drwy Atal

Past Event - booking closed

Wednesday, 08 October 2025

10:30am - 2:30pm

Sychpant, Blaencillech, Castellnewydd Emlyn, Ceredigion

SA38 9HB


Ymunwch â ni ar daith ‘cerdded a sgwrsio’ ar fferm, a gynlluniwyd ar gyfer pob aelod o’ch tîm fferm chi, i’ch darparu â’r offer, yr wybodaeth, a’r hyder i gymryd y cam nesaf i reoli clefyd Johne.

Wrth i’r diwydiant ddechrau ar gyfnod newydd o reoli clefyd Johne, mae’r gofynion profi yn newid a phrotocolau rheoli’r clefyd yn symud ymlaen. Mae unrhyw gamau a gymerir i daclo clefyd Johne yn cael effaith raeadrol ar reolaeth o glefydau eraill yn eich buches hefyd, felly argymhellir yn gryf eich bod yn mynychu, hyd yn oed os nad ydych chi’n ystyried bod clefyd Johne yn her i’ch buches chi.

P’un ai oes gennych chi gynllun yn barod, neu’n cael trafferth gwybod ble i ddechrau, mi fydd y digwyddiadau hyn yn cynnig arweiniad ymarferol, yn rhannu profiadau fferm go iawn, ac yn darparu cyngor arbenigol i’ch helpu i fireinio eich cynllun clefyd Johne, lleihau achosion o’r clefyd a gwella iechyd y fuches yn gyffredinol.

Byddwch yn clywed yn uniongyrchol gan y ffermwr ei hun a’i filfeddyg, a fydd yn rhannu eu profiad o reoli clefyd Johne – boed hynny’n sicrhau buches risg isel neu’n taclo’r heriau presennol.

Bydd y cyfarfod yn trafod:

  • Gwneud y mwyaf o ddata cofnodi llaeth
  • Rheoli clefyd Johne drwy wella hylendid lloi
  • Rheoli buchod ar adeg lloia yn unol â’u statws o ran haint
  • Egwyddorion bioddiogelwch hanfodol: biogaethiwo a biowahardd
  • Mireinio agwedd eich tîm at newid ymddygiad ar y fferm

Rydym hefyd yn cynnig cyfle i fynychwyr sy’n cofnodi llaeth i gofrestru ar gyfer gweithdy meincnodi dilynol, a fydd yn caniatáu ichi ddeall data eich buches eich hun mewn perthynas ag eraill, yn rhoi cymorth dilynol ichi, ac yn eich helpu i fframio’r sgwrs gyda’ch milfeddyg eich hun i atgyfnerthu cynllun gweithredu clefyd Johne penodol eich fferm chi.

Os ydych chi’n barod i fynd ymhellach ar eich siwrnai rheoli clefyd Johne, mae hwn yn gyfle gwych ichi adeiladu ar yr hyn rydych wedi’i ddysgu, a dysgu oddi wrth ffermwyr eraill rhagweithiol.

Topics:

Sectors:


If you have any questions about this event, please contact us using the details below.

E jamie.mccoy@ahdb.org.uk

T 07823 790440


×