Ceredigion: Gweithio’n gallach ar y fferm

Wednesday, 05 August 2026

10:30am - 2:30pm

Fferm Sychpant , Llandyfrïog, Castellnewydd Emlyn,

SA38 9HB

Book Now


Dysgwch sut i arbed amser, gwella cysondeb a chael mwy allan o’ch tîm yn y gweithdy ymarferol hwn, lle byddwch chi’n dysgu technegau rheoli cynnil a sut y gall trefniadau gweithredu safonol wneud tasgau bob dydd ar y fferm yn haws eu rheoli.

Ymunwch â ni ar Fferm Sychpant gyda’r milfeddyg llaeth Dan Humphries i ddarganfod ffyrdd o symleiddio gweithdrefnau, lleihau amser gwastraff a chreu systemau sy’n helpu i gwblhau tasgau yn y ffordd iawn bob tro.

Wrth i fusnesau llaeth dyfu a mynd yn fwy dibynnol ar dechnoleg a staff ychwanegol, mae ffyrdd clir a chyson o weithio yn dod yn fwy a mwy pwysig.  Bydd y gweithdy hwn yn eich darparu ag offer ymarferol i wella effeithlonrwydd, cefnogi’ch tîm a chynnal safonau uchel o ran lles anifeiliaid ac ansawdd llaeth.

Byddwch yn dysgu sut i:

  • Roi egwyddorion craidd rheoli cynnil ar waith i wella effeithlonrwydd eich busnes llaeth
  • Nodi a lleihau gwastraff o fewn eich gweithdrefnau dyddiol
  • Gwella boddhad, oriau gwaith a diogelwch staff drwy ffyrdd gwell o weithio
  • Datblygu trefniadau gweithredu safonol ar gyfer tasgau allweddol i helpu i sicrhau cysondeb, gan hefyd arbed amser a sicrhau ansawdd llaeth a lles anifeiliaid
  • Cael syniadau ymarferol y gallwch eu rhoi ar waith ar unwaith ar eich fferm chi

Byddwch hefyd yn cael taith o amgylch Fferm Sychpant i weld rheoli cynnil a threfniadau gweithredu safonol ar waith, gan gynnwys ym meysydd buchod sych a magu lloi, yn ogystal â threfn parlwr godro’r fferm, a’r rheoli o ddydd i ddydd.

Byddwch yn gadael gyda syniadau ymarferol a dulliau a brofwyd, y gallwch eu haddasu i’ch busnes eich hun, i symleiddio’r gwaith rheoli o ddydd i ddydd, gwella cysondeb ar draws eich tîm, a rhyddhau mwy o amser i ganolbwyntio ar y meysydd sy’n ychwanegu’r gwerth mwyaf at eich fferm.

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Topics:

Sectors:


If you have any questions about this event, please contact us using the details below.

E abby.james@ahdb.org.uk

T 07860 916635


×