Sgôr uchel am wella symudedd

Wednesday, 3 March 2021

Mae sgorio symudedd yn rheolaidd wedi helpu’r ffermwyr llaeth o Sir Gâr, Robin a Helen Thomas i leihau eu hachosion o gloffni o 29% a gwella lles eu buchod.

Mae Robin a Helen Thomas yn rheoli eu buches prynu mewn o 510 o fuchod ar Fferm Dolau, Llandeilo, gyda’u tri phlentyn, Rhys, Rhydian, a Mari.  Maent hefyd yn rhedeg fferm arall, sef Godor, dan yr un busnes.

Ymunodd y fferm â phrosiect HerdAdvance yn 2020, ac yn dilyn cyfarfod â’u Rheolwr Cyfnewid Gwybodaeth Anifeiliaid AHDB, Anna Bowen, a milfeddyg y fferm, Sotirios Karvountzis, penderfynodd y tîm ganolbwyntio ar reoli cloffni.  Ymwelodd Anna â’r fferm ym Medi 2020 i sgorio symudedd yr holl fuchod.  Cafwyd bod mwy o achosion o gloffni yn Dolau nag yn Godor, ac roedd nifer yr achosion o fuchod a sgoriodd 2 (cloff) neu 3 (cloff iawn) yn uwch nag y dymunai’r tîm.

Roedd y tîm eisoes wrthi’n tocio traed ac yn bwrw golwg ar draed y buchod yn rheolaidd.  Fodd bynnag, yn dilyn gwelliannau diweddar i’r iard casglu a’r parlwr yn Dolau, roedd y tîm yn bryderus y gallai’r rhigolau dwfn fod yn rhy arw ar gyfer traed y buchod.  Roedd yr achosion mwy niferus o gloffni yn Dolau’n awgrymu efallai bod hynny’n broblem.

O ganlyniad i’r canfyddiadau hyn, gwnaed arwyneb yr iard casglu’n fwy llyfn, fel nad oedd y rhigolau mor ddwfn a’u bod yn cael llai o effaith ar draed y buchod.

Dychwelodd Anna i’r fferm tua diwedd mis Hydref a sgorio symudedd yr holl fuchod eto.  Roedd nifer y buchod a sgoriodd 2 a 3 wedi gostwng yn sylweddol, o 29%.  Gyda buches o 200 o fuchod, byddai gostyngiad o 29% yn gyfystyr ag arbediad o £13,651 mewn costau bob blwyddyn, yn seiliedig ar gyfradd o 30% o achosion o gloffni mewn ffermydd cyfartalog, ac achosion yn costio £2.20 y dydd.

Disgwylir gwelliannau pellach wrth i’r buchod dreulio mwy o amser ar yr arwyneb newydd.  Mae’r tîm hefyd yn bwriadu defnyddio’r tociwr traed ar gyfer buchod sydd â sgôr o 2, ochr yn ochr â’r tocio rheolaidd, a buchod sydd â phroblem.  Am fod y buchod cloff yn cael eu nodi’n gynt, mi ddylai’r problemau fod yn llai difrifol a bydd y buchod yn gwella’n gyflymach.

Meddai Anna:  “Mae sgorio symudedd yn rheolaidd yn hanfodol er mwyn nodi a thrin buchod cloff yn gynnar, ac i fonitro newid yn yr achosion o gloffni dros amser.  Mae’n caniatáu i ffermwyr weld a ydy’r ymyriadau wedi gwella’r cyfraddau cloffni, ac i benderfynu pan opsiynau rheoli sy’n gwneud gwahaniaeth.  Mae’n ysgogydd gwych i ffermwyr wella’n gyson.”

Mae cyfoeth o wybodaeth ac adnoddau ar gael ar ganfod a rheoli cloffni ar ahdb.org.uk/knowledge-library/lameness-in-dairy-cows.

Mae Dolau yn un o 500 o ffermydd a ddewiswyd i gymryd rhan yn y prosiect HerdAdvance, sy’n anelu at helpu ffermwyr llaeth yng Nghymru i wella’u proffidioldeb a’u perfformiad, drwy ganolbwyntio ar wella dulliau o reoli iechyd y fuches a rheoli clefydau.

I gael mwy o wybodaeth am y prosiect HerdAdvance, ewch i’n gwe-dudalen benodedig ar ahdb.org.uk/herdadvance.

Mae HerdAdvance yn rhan o’r Rhaglen Gwella’r Sector Llaeth pum mlynedd, a ariannir gan Lywodraeth Cymru a’r Undeb Ewropeaidd.

Find a wealth of information and resources on how to identify and manage lameness

Dolau is one of 500 farms selected by AHDB to take part in its HerdAdvance project, which aims to help Welsh dairy farmers lift profitability and performance by focusing on improved herd health management and disease control.

Find out more about HerdAdvance

HerdAdvance is part of the five-year Dairy Improvement Programme, which is funded by the Welsh Government and the European Union.

Sectors:

×