AHDB yn croesawu dwy fferm newydd yng Nghymru i’r rhaglen Ffermydd Llaeth Strategol
Friday, 9 May 2025
Mae dwy fferm newydd yng Nghymru wedi’u dewis i ymuno â rhaglen Ffermydd Llaeth Strategol AHDB, gan ddod â dealltwriaeth ranbarthol werthfawr i’r rhwydwaith cynyddol.
Bydd Cefn Gwyn ym Mhwllheli, Gogledd Cymru, a fferm Sychpant yng Nghastellnewydd Emlyn, Gorllewin Cymru yn gwasanaethu bellach fel ffermydd gweithredol lle gall pobl eraill ddysgu o’u systemau, heriau a mentrau, gyda’r ffocws ar wella effeithlonrwydd a phroffidioldeb.
Cefn Gwyn
Mae Tegid a Hannah Williams yn rhedeg fferm 81 hectar sy’n godro 300 o fuchod croesfrid.
Mae’r fuches yn cynhyrchu 5,000 litr y fuwch bob blwyddyn ar gyfartaledd, gyda 3.88% protein a 5.21% braster menyn.
Mae prif feysydd ffocws Cefn Gwyn yn cynnwys iechyd y pridd, defnydd o borthiant, a bridio.
Mae’r fferm hefyd yn rhan o gynllun peilot Pennu Llinell Sylfaen Amgylcheddol AHDB, ac mae’n cyfrannu data i helpu i lunio set ddata Genedlaethol gredadwy ar gyfer meincnodi amgylcheddol.
Meddai Tegid:
“Ar hyn o bryd rydym wrthi’n cynnal archwiliad carbon ac yn edrych yn fanwl ar ble allwn ni leihau costau a gwella effeithlonrwydd.
"Trwy fod yn rhan o’r rhaglen Ffermydd Llaeth Strategol byddwn yn cael mynediad at arbenigedd a grŵp llywio i helpu i’n tywys drwy’r newidiadau rydym am eu gwneud.”

Fferm Sychpant
Ar fferm Sychpant, mae Marcus Ferraro a’i deulu yn godro 300 o fuchod ProCross ar 60 hectar o dir sy’n berchen iddyn nhw, a 122 hectar o dir rhent.
Ar hyn o bryd maent yn cynhyrchu 6,500 litr y fuwch bob blwyddyn ar gyfartaledd, gyda 3.65% protein a 4.52% braster menyn.
Ail-gyflwynodd y teulu ffermio llaeth yn 2013 ar ôl buddsoddi mewn seilwaith.
Er iddyn nhw ddechrau gyda buches prynu mewn, maent yn canolbwyntio bellach ar fridio o’r fuches ei hun i wella bioddiogelwch ac iechyd y fuches.
Meddai Marcus:
“Mae ymuno â’r rhaglen yn rhoi cyfle inni gael cyngor arbenigol mewn meysydd fel ffrwythlondeb ac iechyd y fuches yn gyffredinol.
"Rydym wedi gweithio’n galed i gyrraedd y fan hon, ac rydym am rannu ein profiad a chynnig rhywbeth o werth i eraill.”
Mae Rhaglen Ffermydd Llaeth Strategol AHDB yn darparu cyfle i ffermwyr ddysgu oddi wrth ei gilydd, gan ddod â ffermwyr ac arbenigwyr y diwydiant at ei gilydd i hybu gwelliant parhaus ar y fferm.
Mae pob fferm sy’n cymryd rhan yn cael arweiniad gan grŵp llywio lleol, gan ddarparu atebolrwydd a chymorth strategol trwy gydol y rhaglen tair blynedd.
Meddai Jamie McCoy, Uwch Reolwr Cyfnewid Gwybodaeth - Llaeth:
“Rydym wrth ein boddau’n croesawu’r ddwy fferm newydd i’r Rhaglen Ffermydd Llaeth Strategol.
"Bydd eu cyfranogiad yn darparu dealltwriaeth ranbarthol werthfawr ac yn cyfrannu at y broses barhaus o wella arferion ffermio llaeth.
"Edrychwn ymlaen at weld yr effaith bositif a gânt ar y rhwydwaith a’r gymuned ffermio ehangach.
"Bydd y cyfarfodydd yn cynnwys teithiau cerdded o amgylch y fferm, cyfarfodydd technegol, a darpariaeth ddigidol hyd yn oed, felly peidiwch â methu’r digwyddiadau lansio ym Mehefin, i gael rhannu sut yr hoffech chi i’r rhaglen Ffermydd Llaeth Strategol wasanaethu talwyr lefi Llaeth Cymru."
Ymunwch ag AHDB ar gyfer lansiad dwy Fferm Laeth Strategol yng Nghymru ym Mehefin, a fydd yn cynnwys taith o amgylch y fferm a thrafodaethau gyda’r ffermwyr am eu siwrnai a’u hamcanion fel rhan o’r rhaglen:
• Lansiad Cefn Gwyn: Mehefin 3, 2025
• Lansiad fferm Sychpant: Mehefin 5, 2025
I gael mwy o wybodaeth am rwydwaith Ffermydd Llaeth Strategol AHDB ewch i ahdb.org.uk/strategic-dairy-farms
