Rhaglen Gwella’r Sector Llaeth - Cymru

Mae gwella dulliau o reoli iechyd y fuches wrth galon ein rhaglen gwella’r sector llaeth yng Nghymru, a fydd hefyd yn ymestyn ein menter ffermydd strategol. 

Gwneir y fenter yn bosibl gyda buddsoddiad o £6.5M dros bum mlynedd gan Raglen Datblygu Gwledig  2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Undeb Ewropeaidd.

HerdAdvance

Rhan allweddol o’r rhaglen i helpu ffermwyr llaeth yng Nghymru  wella’u proffidioldeb a’u perfformiad drwy ganolbwyntio ar  ddulliau gwell o reoli iechyd y fuches a chlefydau.

Mae cymorth ariannol a thechnegol ar gael ar gyfer HerdAdvance ac mae ffenestr Mynegi Diddordeb ar agor rhwng 27ain Medi a 4ydd Tachwedd 2019.

Dysgwch fwy am HerdAdvance a lawrlwytho ffurflen gais.

Ffermydd Strategol

Rydym yn cydnabod fod ffermwyr yn dysgu orau oddi wrth ei gilydd, ac mae ein ffermydd strategol yn annog dysgu ‘o ffermwr i ffermwr’ drwy gyfarfodydd rheolaidd ar ffermydd, yn ogystal â rhannu’u ffigurau’n agored i’w cymharu yn erbyn ein dangosyddion perfformiad allweddol i ddangos beth ellir ei gyflawni.

Mae manylion pellach i ddod am sut allwch chi gymryd rhan yn y fenter hon yng Nghymru.

Dysgwch fwy am ein ffermydd strategol

Rhaglen Gwella’r Sector Llaeth - Prosiectau Amgylcheddol

Yn 2021 ehangodd Rhaglen Gwella’r Sector Llaeth ei chylch gwaith amgylcheddol, ac mae’n cynnig tair tudalen waith ar ddatgarboneiddio tra’n cynhyrchu amaethyddiaeth gynaliadwy a chynhyrchiol o fewn ecosystem naturiol amrywiol.

Dysgwch fwy am Prosiectau Amgylcheddol

Cwrdd â’r tîm

Image of staff member Delyth Lewis-Jones

Delyth Lewis-Jones

Head of Environment

See full bio

Image of staff member Richard Davies

Richard Davies

Knowledge Exchange Senior Manager - Uwch Reolwr Cyfnewid Gwybodaeth

See full bio

×