Rhaglen Gwella’r Sector Llaeth - Prosiectau Amgylcheddol

Yn 2021 ehangodd Rhaglen Gwella’r Sector Llaeth ei chylch gwaith amgylcheddol, ac mae’n cynnig tair tudalen waith ar ddatgarboneiddio tra’n cynhyrchu amaethyddiaeth gynaliadwy a chynhyrchiol o fewn ecosystem naturiol amrywiol.

Rhaglen Gwella’r Sector Llaeth – Cymru

Cyflenwi Modelau Ffermio Llaeth Sero Net - Cymru

Bydd y prosiect hwn yn modelu enghreifftiau o ffermydd llaeth yng Nghymru ac yn ystyried sut y gall fod angen iddynt newid yn y dyfodol i fynd i’r afael ag anghenion newid hinsawdd, a sut all y sbardunwyr eraill a’r cyfyngiadau a osodir arnynt effeithio ar y ffordd maent yn mynd ati i wneud hynny.  Bydd y prosiect yn modelu ffermydd llinell sylfaen, drwy dair senario, ar draws cyfnod o 30 mlynedd (2030, 2040 a 2050) i nodi sut all y ffermydd hyn addasu i gwrdd â heriau cyrraedd Sero Net o fewn gwahanol senarios.

Trwy wneud hyn, bydd y diwydiant yn cael gwell darlun o’r ffordd y bydd angen i’r sector addasu yn y dyfodol.

Asesiadau Cyflym o’r Dystiolaeth - Llaeth

Nod y prosiect hwn yw cynnal asesiadau cyflym o’r dystiolaeth ynghylch arferion all leihau allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr a/neu gynyddu’r gallu i ddal a storio carbon o fewn y sector llaeth.  Yna bydd y canfyddiadau’n cael eu trosi’n grynodebau naratif a gyflwynir yn uniongyrchol i ffermwyr.  Yn ogystal, bydd y prosiect yn amlygu bylchau yn yr wybodaeth.

Archwiliadau Carbon - Ffermydd Llaeth yng Nghymru

Mae’r prosiect hwn yn cynnal 25 o archwiliadau ôl troed carbon, i ganfod gwybodaeth llinell sylfaen am ffermydd llaeth yng Nghymru.  Bydd y ffermydd yn cynrychioli pob gwahanol fath o system (h.y. lloia trwy’r flwyddyn, mewn bloc yn y gwanwyn ac mewn bloc yn yr hydref) ar draws Cymru gyfan.  Yn ogystal â’r archwiliad carbon, datblygir cynlluniau gweithredu ar gyfer pob fferm, ac ymhen 12 mis ailadroddir yr archwiliad i weld a yw’r newidiadau wedi gwneud gwahaniaeth.

×