Marginal litres – profit or loss with John Roche
“Are you making money from milk, or milk from money?”
Join AHDB and Farming Connect for a webinar featuring world renowned dairy expert John Roche for a discussion on the value of marginal litres in block calving systems.
Producing litres on the shoulders of the season can be costly in a block calving system – in fact it could be costing you more than you think. Alongside strategic dairy farm host, Dylan Harries, John will explore how marginal litres may be impacting your profit line. Dylan will share his perspective on marginal litres and his approach to milk production during his time in the joint venture at Tyddyn yr Eglwys and how this approach has helped them develop their stake in the business.
This webinar will also highlight:
- The impact of marginal litres on the environment
- How pushing production at particular times of year can impact public perception of the dairy industry
About Tyddyn yr Eglwys
Dylan and Hannah Harries have been operating as contract farmers at Tyddyn yr Eglwys since October 2013. Owned by Kim and Bryony Petty, both the Petty’s and Harries’ have a stake within the herd.
Located in North East Pembrokeshire, Tyddyn yr Eglwys is a 283ha farm, of which 160ha is grazing platform. Dylan and Hannah aim to incorporate efficiencies into all aspects of the farm including a well-designed parlour allowing a high throughput of cows per hour. After spending winter with access to the self-feed silage clamp adjacent to the cubicles, cows calve onto an outdoor calving pad during the spring, before moving to pasture when in milk.
This spring calving herd of 550 Friesian X Jerseys averages 5,800litres per cow per year at 4.80% butterfat and 3.80% protein. All replacements are home reared, and the average age at first calving for 2019 was 21 months. To allow maximum access to good pasture and increase the production of milk from forage, there has been recent investment in tracks and troughs, silage clamps and slurry storage. Dylan and Hannah also incorporate a herbal ley containing clover, plantain and chicory into their reseeding programme.
Learn more about Tyddyn yr Eglwys
About Strategic Dairy Farms
Strategic Dairy Farms aim to help farmers learn from each other through regular on-farm meetings where we will share key performance data and showcase what the best farmers are doing.
They form part of the Optimal Dairy Systems programme which aims to help dairy farmers reduce costs and increase efficiency by focusing on either a tight block or all-year-round calving system.
The growing network of Strategic Dairy Farms have calculated KPIs for their enterprises which are shared at meetings and published online. These are physical and financial performance measures that are critical to success. Farmers can benchmark their businesses against these KPIs to help identify areas for improvement.
“A ydych chi’n gwneud arian o laeth, neu’n gwneud llaeth o arian?”
Ymunwch ag AHDB a Cyswllt Ffermio ar gyfer gweminar gyda’r arbenigwr llaeth byd-enwog John Roche, i drafod gwerth litrau ymylol o fewn systemau lloia mewn bloc.
Gall cynhyrchu litrau ar ddechrau’r tymor fod yn gostus gyda system lloia mewn bloc – yn wir, gall fod yn costio mwy ichi nag y tybiwch. Ochr yn ochr â’r ffermwr llaeth strategol, Dylan Harries, bydd John yn archwilio sut y gall litrau ymylol fod yn effeithio ar eich llinell elw. Bydd Dylan yn trafod litrau ymylol o’i bersbectif yntau, a’i ddull o gynhyrchu llaeth yn ystod ei gyfnod gyda’r fenter gydweithredol yn Nhyddyn yr Eglwys, a sut mae’r dull hwnnw wedi helpu i ddatblygu eu cyfran nhw yn y busnes.
Bydd y weminar hon hefyd yn trafod:
- Effaith litrau ymylol ar yr amgylchedd
- Sut mae gwthio’r cynhyrchu ar adegau arbennig o’r flwyddyn yn gallu effeithio ar y ffordd mae’r cyhoedd yn gweld y diwydiant llaeth
Am Tyddyn yr Eglwys
Mae Dylan a Hannah Harries wedi bod yn ffermwyr contract yn Nhyddyn yr Eglwys ers Hydref 2013. Mae’r fferm yn berchen i Kim a Bryony Petty, ac mae gan y naill gwpl a’r llall gyfran yn y fuches.
Wedi’i lleoli yng Ngogledd Ddwyrain Sir Benfro, mae Tyddyn yr Eglwys yn fferm 283ha, gyda 160ha o hwnnw'n dir pori. Nod Dylan a Hannah yw ymgorffori effeithlonrwydd ym mhob agwedd o’r fferm, gan gynnwys parlwr sydd wedi’i gynllunio’n dda i ganiatáu i nifer fawr o fuchod fynd trwyddo bob awr. Ar ôl treulio’r gaeaf gyda mynediad at glamp silwair hunanfwydo gerllaw’r ciwbiclau, mae’r buchod yn lloia mewn ardal loia awyr agored yn y gwanwyn, cyn symud i’r borfa pan fyddant yn llaetha.
Mae’r fuches hon o 550 o fuchod Friesian/Jersey croes, sy’n lloia’n y gwanwyn, yn cynhyrchu 5,800 litr y fuwch bob blwyddyn ar gyfartaledd, sy’n cynnwys 4.80% braster menyn a 3.80% protein. Mae’r holl anifeiliaid amnewid yn cael eu magu ar y fferm, ac oedran cyfartalog lloia am y tro cyntaf yn 2019 oedd 21 mis. I sicrhau’r mynediad gorau at borfa dda ac i gynhyrchu mwy o laeth o borfa, buddsoddwyd yn ddiweddar mewn traciau a chafnau, clampiau silwair a storfa slyri. Mae Dylan a Hannah hefyd yn ymgorffori gwndwn perlysiau sy’n cynnwys meillion, llyriad a sicori yn eu rhaglen ail-hadu.
Dysgwch fwy am Tyddyn yr Eglwys
Am Ffermydd Llaeth Strategol
Nod ffermydd llaeth strategol yw helpu ffermwyr i ddysgu oddi wrth ei gilydd drwy gyfarfodydd rheolaidd ar ffermydd, lle rhennir data perfformiad allweddol ac arddangosir beth mae’r ffermwyr gorau yn ei wneud.
Maent yn ffurfio rhan o’r rhaglen ‘Optimal Dairy Systems’, sy’n anelu at helpu ffermwyr llaeth i leihau costau a chynyddu effeithlonrwydd, drwy ganolbwyntio ar un ai system lloia mewn bloc neu system lloia trwy’r flwyddyn.
Mae gan ein rhwydwaith cynyddol o ffermydd llaeth strategol ddangosyddion perfformiad allweddol cyfrifedig ar gyfer eu mentrau, a rennir mewn cyfarfodydd, ac a gyhoeddir ar-lein. Mae’r rhain yn mesur perfformiadau corfforol ac ariannol sy’n hanfodol er mwyn llwyddo. Gall ffermwyr feincnodi eu busnesau yn erbyn y dangosyddion perfformiad allweddol hyn i’w helpu i nodi meysydd i’w gwella.
Sectors:
If you have any questions about this event, please contact us using the details below.
T 01904 771216