The impact of your team on your personal effectiveness

Past Event

Wednesday, 01 December 2021

11:30am - 1:00pm


Due to unforeseen health issues Paul Harris will be unable to join the webinar tomorrow. You’ll still hear from Matthew Jackson about how he manages his time and teams across multiple dairy businesses in Wales to get the best from himself and those who work with him. 

You will also get some time management tips from AHDB’s Jamie McCoy and the opportunity to order whiteboards to help you with your personal and team organisation. 

Jamie say’s “Matthew’s story is fascinating, one of hard work, but also tremendous business growth in a sort space of time, and his success relies on his ability to manage his own time, and the people around him efficiently for mutual benefit. Join us to hear more.

Join AHDB and Farming Connect for a webinar with Matt Jackson from Penllech Bach to find out how to create more time in your day through better people management.

Time is a finite resource, and farmers need to make the best use out of it. Whilst there are some key strategies to deploy in managing priorities and making use of technology to be more effective, the biggest time stealers on a farm can be the inefficient management of your most important resource – your people. From delegating effectively, communicating clearly, and ensuring the team have the necessary skills, good time management begins with good people management.

In this webinar, strategic dairy farmer Matt Jackson will be joined by Paul Harris, Real Success Ltd, to talk about how they are working on finding more time for Matt to manage his business through a blend of simple time management techniques along with the longer-term development of the team.

In this session you will learn more about:

  • Simple time management tips to help you find more time in your day
  • The important steps in your people management processes to deliver more time and more headspace for you


About Paul Harris – Founder and Managing Director of Real Success

Paul Harris is managing director of Real Success – a people consultancy that helps the agricultural sector to improve staff management. 

A regular speaker at industry events, Paul is widely recognised as a thought leader and positive advocate of staff development in the agricultural sector. 


About Penllech Bach

Penllech Bach is a 100ha all grass farm owned by Dafydd Wynne-Finch and managed by Matthew Jackson on a 50:50 share-milking agreement which began in 2013. Alongside Matthew, his teammates Iolo and Bethan both work on the farm fulltime.

The spring block calving herd comprises of 300 New Zealand type Friesian Crossbreds, producing 5,500L/cow and 450kg MS/cow. Calving starts on 25th January, with mid-point achieved 14 days later. Fertility is high, with only a 5.2% empty rate in 2019.

About Strategic Dairy Farms

Strategic Dairy Farms aim to help farmers learn from each other through regular on-farm meetings where we will share key performance data and showcase what the best farmers are doing. 

They form part of the Optimal Dairy Systems programme which aims to help dairy farmers reduce costs and increase efficiency by focusing on either a tight block or all-year-round calving system. 

The growing network of Strategic Dairy Farms have calculated KPIs for their enterprises which are shared at meetings and published online. These are physical and financial performance measures that are critical to success. Farmers can benchmark their businesses against these KPIs to help identify areas for improvement. 

Follow the programme and find other local SDFs at www.ahdb.org.uk/farm-excellence


Ymunwch ag AHDB a Chyswllt Ffermio ar gyfer gweminar gyda Matt Jackson o fferm Penllech Bach, i ddarganfod sut i greu mwy o amser yn eich diwrnod trwy reoli pobl yn well.

Mae amser yn adnodd cyfyngedig, ac mae angen i ffermwyr wneud y defnydd gorau ohono. Er bod yna rai strategaethau allweddol i’w defnyddio wrth reoli blaenoriaethau a defnyddio technoleg i fod yn fwy effeithiol, yr arferion gwastraffu amser mwyaf ar fferm yw rheolaeth aneffeithiol ar eich adnodd pwysicaf – eich pobl. O ddirprwyo'n effeithiol, cyfathrebu'n glir, a sicrhau bod gan y tîm y sgiliau angenrheidiol, mae rheoli amser yn dda yn dechrau gyda rheoli pobl yn dda.

Yn y weminar hon, bydd Paul Harris, Real Success Ltd, yn ymuno â'r ffermwr llaeth strategol, Matt Jackson, i siarad am y modd y maent yn gweithio ar ddod o hyd i fwy o amser i Matt reoli ei fusnes trwy gyfuniad o dechnegau rheoli amser syml ynghyd â datblygu'r tîm dros y tymor hwy.

Yn y sesiwn hon byddwch yn dysgu rhagor am:

  • Awgrymiadau syml o ran rheoli amser i'ch helpu i ddod o hyd i fwy o amser yn eich diwrnod
  • Y camau pwysig yn eich prosesau rheoli pobl i ddarparu mwy o amser a mwy o le i feddwl i chi

Ynglŷn â Paul Harris – Sylfaenydd a Rheolwr Gyfarwyddwr Real Success

Paul Harris yw rheolwr gyfarwyddwr Real Success – ymgynghoriaeth pobl sy'n helpu'r sector amaethyddol i wella ei brosesau rheoli staff. 

Ac yntau'n siaradwr rheolaidd yn nigwyddiadau'r diwydiant, mae Paul yn cael ei gydnabod yn eang yn arweinydd syniadau ac yn eiriolwr cadarnhaol dros ddatblygu staff yn y sector amaethyddol.

 

Ynglŷn â fferm Penllech Bach

Mae Penllech Bach yn fferm 100 ha laswellt yn unig, sy'n eiddo i Dafydd Wynne-Finch ac a reolir gan Matthew Jackson ar gytundeb godro cyfran 50:50 a ddechreuodd yn 2013. Ochr yn ochr â Matthew, mae aelodau eraill ei dîm, Iolo a Bethan, ill dau yn gweithio ar y fferm yn llawn-amser.

Mae'r fuches sy'n bwrw ei lloi yn y gwanwyn yn cynnwys 300 o wartheg Friesian Seland Newydd croes, sy'n cynhyrchu 5,500 L y fuwch a 450 kg MS y fuwch. Mae'r cyfnod lloia yn dechrau ar 25 Ionawr, ac mae'r pwynt canol wedi'i gyflawni 14 diwrnod yn ddiweddarach. Mae ffrwythlondeb yn uchel, gyda chyfradd wag o 5.2% yn unig yn 2019.

Ynglŷn â Ffermydd Llaeth Strategol

Mae ffermydd llaeth strategol yn helpu ffermwyr i ddysgu oddi wrth ei gilydd drwy gyfarfodydd rheolaidd ar ffermydd, lle rhennir data perfformiad allweddol ac arddangosir beth mae’r ffermwyr gorau yn ei wneud. 

Maent yn ffurfio rhan o’r rhaglen ‘Optimal Dairy Systems’, sy’n anelu at helpu ffermwyr llaeth i leihau costau a chynyddu effeithlonrwydd, drwy ganolbwyntio ar un ai system lloia mewn bloc neu system lloia trwy’r flwyddyn. 

Mae gan ein rhwydwaith cynyddol o ffermydd llaeth strategol ddangosyddion perfformiad allweddol cyfrifedig ar gyfer eu mentrau, a rennir mewn cyfarfodydd, ac a gyhoeddir ar-lein.  Mae’r rhain yn mesur perfformiadau corfforol ac ariannol sy’n hanfodol er mwyn llwyddo.  Gall ffermwyr feincnodi eu busnesau yn erbyn y dangosyddion perfformiad allweddol hyn i’w helpu i nodi meysydd i’w gwella.

Gallwch ddilyn y rhaglen a dod o hyd i Ffermydd Llaeth Strategol lleol eraill yn www.ahdb.org.uk/farm-excellence

Sectors:


If you have any questions about this event, please contact us using the details below.

E ke.events@ahdb.org.uk

T 01904 771216


Other Events

×