Targedu Sero Net – Adfywio priddoedd a lleihau mewnbynnau
Ymunwch â ni ar gyfer gweminar gyda’r arbenigwr Amaethyddiaeth Adfywiol, Ray Archuleta, i weld sut y gallai lleihau mewnbynnau a mabwysiadu system amaethu adfywiol helpu i leihau eich ôl troed carbon.
Amaethyddiaeth Adfywiol, beth mae’n ei olygu mewn gwirionedd? Ydyn ni’n sôn am briddoedd, da byw, arferion organig, neu am leihau ein defnydd o wrtaith yn unig?
Amaethyddiaeth Adfywiol (‘Regen-Ag‘) yw term y dydd o fewn diwydiant llaeth y DU, a bydd y weminar hon yn disgrifio’r egwyddorion, eu buddiannau, a sut y gellir eu rhoi ar waith ar ffermydd Prydain.
Mae Ray Archuleta yn wyddonydd pridd sydd ag achrediad Cymdeithas Gwyddor Pridd America, ac mae ganddo dros 30 mlynedd o brofiad fel cadwraethwr pridd. Cyfeirir ato’n aml fel ‘Y Gweinidog Pridd’ a bu’n serennu fel y gwyddonydd pridd yn y rhaglen ddogfen Netflix ‘Kiss the Ground’.
Ymunwch â Ray ac AHDB i ddysgu mwy am y canlynol:
- Deall cysyniadau swyddogaeth pridd
- Deall dangosyddion swyddogaeth pridd
- Deall prawf Haney, sef prawf pridd biolegol newydd sy’n helpu i leihau mewnbynnau a phennu swyddogaeth pridd
- Trafod sut y defnyddiwyd prawf Haney i werthuso a datblygu Menter Laeth Seiliedig ar Bori
Sectors:
If you have any questions about this event, please contact us using the details below.
