Sir Gaerfyrddin: Sut i bontio buchod sych yn llwyddiannus
Ymunwch ag AHDB a Cyswllt Ffermio i ddysgu sut i bontio’n llwyddiannus o fuwch sych i fuwch laethog gyda’r maethegydd Anwen Jones, y milfeddyg fferm Sian Dyer, a’r ffermwr llaeth strategol Richard Twose a’i deulu.
Mae 76% o’n buches genedlaethol yn wynebu rhyw fath o broblem yn ystod y cyfnod pontio, ac mae’n bur debyg na fydd y buchod hyn byth yn cyrraedd eu lefelau cynhyrchu gorau. Beth sy’n atal buchod rhag cyrraedd eu lefelau cynhyrchu gorau ?
- Twymyn llaeth – cyfartaledd twymyn llaeth clinigol y DU – 6%
- Heb fwrw pilen y ffetws – cyfartaledd 9%
- LDA (Dadleoliad yr Abomaswm) – cyfartaledd 4.5%
- Cetosis – cyfartaledd 12% clinigol, hyd at 60%
Mae deiet a phorthiant yn ffactorau allweddol sy’n effeithio ar lwyddiant cyfnod pontio buchod sych. Gyda’i oblygiadau enfawr o ran ffrwythlondeb a lefelau cynhyrchu yn ystod y llaethiad dilynol, dyma gyfle i glywed gan y maethegydd Anwen Jones sut i sicrhau pontio llwyddiannus.
Yn ystod y digwyddiad hwn byddwch yn dysgu mwy am:
- Sut i symud yn llwyddiannus o gymeriant egni o 115MJ y dydd i 300MJ y dydd
- Sicrhau’r cydbwysedd cywir o fwynau ac elfennau hybrin i osgoi clefydau metabolig
- Darparu silwair sy’n cwrdd â gofynion penodol y fuwch sych.
Am y fferm:
Mae Maenhir, fferm deuluol draddodiadol, yn gorwedd ar y ffin rhwng Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro ac mae’n cael ei rhedeg gan ei pherchnogion, sef teulu Twose. Roedd Maenhir, a brynwyd gan deulu Twose yn 1975, yn fferm 120 acer yn unig yn wreiddiol. Heddiw mae’r fferm yn ymestyn dros 600 o aceri, gyda 100 arall yn cael eu rhentu i gadw buches o 400 o wartheg Holstein pedigri, a nifer o fentrau llai sy’n cael eu rhedeg gan y teulu.
Mae buches Maenhir yn lloia trwy’r flwyddyn, ac yn cael ei phwysoli yn yr hydref. Mae’r fuches yn cynhyrchu dros 9000 o litrau ar gyfartaledd, sy’n 3.39% protein a 4.12% braster menyn. Defnyddir semen yn ôl ei ryw ar gyfer yr holl anifeiliaid amnewid, gyda gweddill y fuches yn mynd yn gig eidion. Maent wedi cyrraedd cyfraddau beichiogi ardderchog gyda’u heffrod, sy’n lloia am y tro cyntaf yn 22-24 mis oed ar gyfartaledd.
Am y siaradwyr:
Anwen Jones – dechreuodd Anwen ei gyrfa gyda BOCM Pauls cyn symud i Keenan, lle cynyddodd ei diddordeb mawr mewn maeth anifeiliaid cnoi cil a chreu deiet ar gyfer dros 120 o fuchesi yng Nghymru.
Yn fwy diweddar bu’n gweithio i gyflenwr porthiant mawr fel Rheolwr Datblygu Llaeth, gan weithio gyda systemau llaeth blaengar, yn canolbwyntio ar faeth, cynhyrchu, a lles y fuwch. Bu’r ffocws yn arbennig ar rôl maeth, gan ganolbwyntio ar reoli’r fuwch yn ystod y cyfnod pontio, effeithlonrwydd y rwmen, ac archwilio ffyrdd o wella hwsmonaeth buchod. Erbyn hyn mae’n gweithio gyda ffermwyr, dosbarthwyr a melinau porthiant, yn darparu cymorth technegol a hyfforddiant.
Sian Dyer BVSc CertAVP(Cattle) MRCVS – mae Sian yn filfeddyg anifeiliaid cymysg a raddiodd o Brifysgol Bryste yn 2007. Ers hynny mae hi wedi cael tystysgrif mewn uwch ymarfer milfeddygol ym maes gwartheg o Brifysgol Lerpwl. Tyfodd Sian i fyny ar fferm, mae’n siaradwr Cymraeg rhugl, ac mae ganddi ddiddordeb brwd mewn iechyd buchod godro a stoc ifanc. Mae ei theulu ifanc yn ei chadw’n brysur ond pan fydd amser yn caniatáu, mae’n mwynhau rhedeg a beicio.
Sectors:
If you have any questions about this event, please contact us using the details below.
