Sir Gaerfyrddin: Slyri – Cyfleoedd i ddisodli gwrtaith a brynir

Past Event - booking closed

Wednesday, 08 June 2022

10:30am - 2:00pm

Maenhir, Login, Whitland, Carmarthenshire

SA34 0XE


Ymunwch ag AHDB a Cyswllt Ffermio i ddysgu sut i werthuso slyri a gwrtaith organig arall a’i ymgorffori’n effeithiol yn eich Cynlluniau Maeth, gyda’r ymgynghorydd annibynnol Chris Duller a’r ffermwr llaeth strategol Richard Twose.

Ni ddylid diystyru gwerth maethol slyri.  Wrth i gostau gwrtaith godi a chyda llai ohono ar gael, mae’r N, P a K o fewn slyri a thail organig arall yn dod yn fwy a mwy pwysig.

Gyda’r prisiau gwrtaith presennol, mae’r cynnwys N,P,K sydd ar gael i’r planhigyn o fewn slyri buwch arferol yn werth £7 fesul m3, neu £210 yr hectar ynddo’i hun gyda gwasgariad arferol.  Gellir ond sicrhau’r gwerthoedd hyn os ydy’r maint iawn o dail buarth yn cael ei wasgaru yn y man iawn ar yr adeg iawn.

Yn ystod y digwyddiad hwn byddwch yn dysgu mwy am:

  • Y ffordd orau o fesur cynnwys maethol eich slyri.
  • Cael dealltwriaeth dda o ofynion eich priddoedd a’ch cnydau.
  • Sut i ymgorffori slyri o fewn cynllun rheoli maetholion i wneud y defnydd gorau ohono.
  • Rheoli slyri’n effeithlon i arbed arian ar gwrtaith a brynir.
  • Sut all y rheoliadau Rheoli Llygredd Amaethyddol sydd i ddod effeithio ar eich busnes.

 

Am y fferm:

Mae Maenhir, fferm deuluol draddodiadol, yn gorwedd ar y ffin rhwng Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro ac mae’n cael ei rhedeg gan ei pherchnogion, sef teulu Twose.

Roedd Maenhir, a brynwyd  gan deulu Twose yn 1975, yn fferm 120 acer yn unig yn wreiddiol.  Heddiw mae’r fferm yn ymestyn dros 600 o aceri, gyda 100 arall yn cael eu rhentu i gadw buches o 400 o wartheg Holstein pedigri, a nifer o fentrau llai sy’n cael eu rhedeg gan y teulu.

Mae buches Maenhir yn lloia trwy’r flwyddyn, ac yn cael ei phwysoli yn yr hydref.  Mae’r fuches yn cynhyrchu 9000 o litrau ar gyfartaledd, sy’n 3.39% protein a 4.12% braster menyn.  Defnyddir semen yn ôl ei ryw ar gyfer yr holl anifeiliaid amnewid, gyda gweddill y fuches yn gig eidion.  Maent wedi cyrraedd cyfraddau beichiogi ardderchog gyda’u heffrod, sy’n lloia am y tro cyntaf yn 22-24 mis oed ar gyfartaledd.

Am y siaradwr:

Mae Chris Duller yn arbenigwr pridd a glaswelltir annibynnol sydd wedi bod wrthi’n cynghori ffermwyr ar reoli slyri a phriddoedd dros y 25 mlynedd diwethaf.  Yn ddiweddar bu’n gweithio’n agos ag unigolion a grwpiau o ffermwyr ledled Cymru i’w helpu i baratoi eu busnesau ar gyfer y rheoliadau Rheoli Llygredd Amaethyddol sydd i ddod.

Sectors:


If you have any questions about this event, please contact us using the details below.

E KE.events@ahdb.org.uk


×