Sir Fynwy: datgloi potensial bridio cudd eich buches
Please nore, this event has been cancelled.
Darganfyddwch y potensial cudd yn eich buches yn ystod ein gweithdy, lle byddwn yn datgelu’r perlau sydd ynghudd yn nata eich buches, gan olygu y byddwch yn gadael gydag adroddiad sydd wedi’i deilwra’n arbennig i’ch helpu i symud ymlaen i’r lefel nesaf gyda’ch penderfyniadau bridio.
Mi fydd y dewisiadau a wnewch chi’n cael effaith barhaol ar broffidioldeb y fferm, wrth iddyn nhw gynyddu o un genhedlaeth i’r llall. Tra bod dethol yn ddoeth yn cael effaith bositif ar eich buches am flynyddoedd i ddod, gall penderfyniadau gwael rwystro’r gwelliannau all ddeillio o reoli da.
Mae ein data cofnodion llaeth eisoes yn siapio geneteg y DU drwy AHDB, sy’n darparu’r gwerthusiadau annibynnol a ddefnyddir gan gwmnïau bridio. Ond a ydych chi’n gwneud y mwyaf o’r data hwn wrth wneud penderfyniadau bridio ar gyfer eich buches? Yn y gweithdy, bydd arbenigwr geneteg AHDB yn eich helpu i:
- Osod nodau bridio clir sydd wedi’u teilwra i ofynion eich fferm
- Cael mynediad at, a dadansoddi potensial genetig eich buches gydag adroddiad wedi’i bersonoli
- Nodi llinell sylfaen eich buches a nodi meysydd i’w gwella
- Gwerthuso’ch data a dewis y teirw iawn ar gyfer eich buches
Mae’r gweithdy hwn wedi’i gynllunio ar gyfer unrhyw un sydd â chofnodion llaeth ar gyfer y fuches ac sydd am gymryd mwy o ran yn ei strategaeth fridio. P’un ai ydych chi’n gwneud eich penderfyniadau bridio eich hun, yn gweithio gyda’ch tîm, neu’ch cynghorwr bridio, mi fydd y gweithdy hwn yn eich darparu â’r hyn sydd ei angen arnoch i ddatgloi’r potensial bridio cudd yn eich buches.
Mae llefydd yn y gweithdy hwn ar gael i ffermwyr llaeth a rheolwyr buchesi’n unig. Peidiwch ag archebu os ydych chi’n drydydd parti os gwelwch yn dda. Os hoffech chi gael mwy o wybodaeth am yr ymgyrch hwn, cysylltwch â’ch Rheolwr Cyfnewid Gwybodaeth AHDB lleol.