Sir Benfro: Targedu Sero Net – Tyfu a silweirio porthiant ar ffermydd

Past Event - booking closed

Thursday, 08 December 2022

10:45am - 2:30pm

Trewern Arms, Nevern, Newport, Pembrokeshire

SA42 0NB


Ymunwch â ni i ddysgu mwy am opsiynau bwydo gwahanol ar gyfer eich buches, a sut y gallech chi dyfu cyfran uwch o borthiant ar y fferm.

Mi fydd y llwybrau tuag at leihau’r carbon a gynhyrchir yn amrywio o un fferm i’r llall.  Gyda rheoliadau’n cyfyngu o bosib ar niferoedd stoc ar dir Cymru, mi all fod yna gyfle i dyfu cyfran uwch o ddeiet y fuwch yn y wlad.

Ar y rhan fwyaf o ffermydd Cymru mae 60-70% o ddeiet y fuwch eisoes yn cael ei dyfu ar y fferm, felly gall gwelliannau bach o ran cynhyrchedd arwain at enillion sylweddol.  Mi all hyn hefyd fod yn gyfle i ddisodli’r porthiant a brynir ar gyfer deiet y fuwch, ac mi allai hynny leihau’ch costau, yn ogystal â’ch ôl troed carbon – rhywbeth y mae nifer fawr o ddefnyddwyr llaeth yn galw amdano.

Ar y diwrnod, mi fyddwch yn dysgu mwy am:

  • Amryw o opsiynau porthiant newydd
  • Treial cyfredol sy’n archwilio potensial tyfu ffa dringo ochr yn ochr ag india-corn
  • Sut y gall ffa dringo gyfrannu at ddeiet y fuwch a’u potensial i fachu nitrogen
  • Cnydau amgen a allai siwtio’ch system chi

Bydd y siaradwyr yn cynnwys Ben Williams o Glanbia ar pam y gall fod yn fuddiol ichi leihau eich ôl troed carbon, David Howard o Wynnstay a Rhun Fychan o Brifysgol Aberystwyth, a fydd yn canolbwyntio ar wella glaswellt wedi’i silweirio a chnydau newydd ar gyfer deiet y fuwch odro.  Hefyd, mi fydd teulu’r Evansiaid yn garedig iawn yn mynd â ni ar daith gerdded o amgylch fferm Berry Hill.

Sectors:


If you have any questions about this event, please contact us using the details below.

E KE.Events@ahdb.org.uk


×