Sir Benfro: Atal clefydau heintus – rôl brechu o fewn rhaglen rheoli iechyd y fuches
Ymunwch ag AHDB a Cyswllt Ffermio ar gyfer gweminar gyda’r ffermwyr llaeth strategol, Richard a Joe Twose, Maenhir, i ddysgu sut i fynd ati’n rhagweithiol i reoli iechyd eich buches.
Mae buchod iach yn golygu buchod proffidiol. Gyda ffocws cynyddol ar leihau defnydd o wrthfiotigau a moddion lladd llyngyr, mae’n bwysicach nawr nag erioed bod eich fferm yn mynd ati’n rhagweithiol i reoli iechyd y fuches. Yn ogystal ag iechyd lloi, iechyd traed ac iechyd y gadair/pwrs (mastitis), mae angen inni ystyried clefydau heintus. Drwy sefydlu statws presennol, creu asesiad risg, monitro parhaus, ac ystyried brechlynnau priodol i reoli iechyd y fuches, mae modd atal neu leihau clefydau yn y fuches..
Yn y weminar hon bydd Richard a Joe yn cael cwmni’r ymgynghorydd milfeddygol Dr James Breen, Map of Ag, i drafod sut y gall y tîm ym Maenhir sicrhau eu bod yn rheoli eu buches yn effeithiol i leihau effaith pathogenau a pharasitiaid.
Yn y sesiwn hon byddwch yn dysgu am:
- Y brechlynnau sydd ar gael a pha mor gost-effeithiol ydyn nhw
- Dewis y brechlynnau priodol ar gyfer eich fferm
- Monitro clefydau yn eich buches a phryd i ymateb
- Amseru a storio brechlynnau i’w gwneud mor effeithlon â phosib
Sectors:
If you have any questions about this event, please contact us using the details below.
T 01904 771218
