- Home
- Events
- Rhuthun: Cyfarfod olaf ffermydd llaeth strategol Rhual a Bodysgaw: Sut mae pethau’n argoeli ar gyfer y dyfodol?
Rhuthun: Cyfarfod olaf ffermydd llaeth strategol Rhual a Bodysgaw: Sut mae pethau’n argoeli ar gyfer y dyfodol?
Ymunwch ag AHDB a Cyswllt Ffermio ar gyfer y cyfarfod olaf gydag Arthur Owen, Bodysgaw, a John ac Anna Booth, Rhual Dairy, i adolygu eu siwrneiau fel Ffermydd Llaeth Strategol. Byddwn hefyd yn clywed am ddadansoddiad o’r farchnad a wnaed yn ddiweddar gan AHDB a sut mae pethau’n argoeli ar gyfer y dyfodol.
Mae Bodysgaw Isa a Rhual Dairy wedi bod yn rhan o Blatfform Rhagoriaeth Fferm AHDB dros y tair blynedd diwethaf. Byddwn yn edrych ar yr hyn sydd wedi newid ar y ffermydd o ganlyniad i hynny, a pha fudd a gafodd y busnesau o’r cyfarfodydd gwahanol.
Yn y cyfarfod hwn byddwch:
- Yn dysgu mwy am y ffordd mae Rhual a Bodysgaw wedi newid dros y tair blynedd diwethaf a’u cynlluniau ar gyfer y dyfodol.
- Yn clywed gan Reolwr Deall Defnyddwyr AHDB, Susie Stannard, a fydd yn eich goleuo am agweddau defnyddwyr tuag at gynnyrch llaeth a’r hyn sy’n bwysig iddyn nhw wrth wneud penderfyniadau prynu.
- Yn dysgu mwy am dueddiadau a sbardunwyr diweddar o fewn y farchnad laeth gan Patty Clayton, Prif Ddadansoddwr Sector Llaeth AHDB, a fydd hefyd yn trafod yr hyn y gallwn ei ddisgwyl yn 2023.
- Yn dysgu am strategaeth a blaenoriaethau AHDB ar gyfer y dyfodol gan Liz Haines, aelod Cyngor Sector AHDB, yn sgil rhyddhau’r cynlluniau sector newydd.
Sectors:
If you have any questions about this event, please contact us using the details below.
