Rheoli costau magu heffrod ar gyfer y fuches
Ymunwch ag AHDB a Cyswllt Ffermio i glywed sut y gall system cofnodi mewnbwn dda helpu i leihau costau magu. Bydd Chris Coxon o Tiller Farm Consultancy yn ymuno â’r Ffermwr Llaeth Strategol Arthur Owen i ddangos sut i fonitro a rheoli costau mewnbwn magu heffrod a nodi meysydd lle gellir cwtogi arnynt.
Mae magu heffrod ar gyfer y fuches yn gost sylweddol o fewn busnes llaeth. Mae gofyn cael gwybodaeth reoli ynghylch mewnbwn, costau a chyfraddau twf i sicrhau bod heffrod yn cael eu magu yn y modd mwyaf effeithlon ac economaidd. Trwy wneud hynny’n unig y gellir targedu meysydd i wella effeithlonrwydd a rheoli costau yn fwy effeithiol.
Yn y digwyddiad hwn byddwch yn dysgu mwy am:
- Sut mae Arthur Owen a’i deulu’n rheoli eu dull o fagu heffrod
- Pa systemau sydd yn eu lle i gofnodi costau a pherfformiad
- Sut i fwrw targedau lloia yn ddyflwydd oed
- Meysydd lle gellir lleihau costau
- Pryd y mae heffrod yn dechrau talu’u ffordd
Am y fferm:
Mae Bodysgaw Isa wedi bod dan denantiaeth teulu’r Oweniaid ar Ystâd Cefn ers 1939. Mae Arthur Owen yn rhedeg y fferm ochr yn ochr â’i ddau fab, Guto a Gwion, ei wraig Marian, a’i dad yng nghyfraith, Clwyd.
Mae’r fuches, sy’n lloia’n yr hydref, yn cynnwys 375 o fuchod Friesian croes ‘gofal hawdd’ sy’n cynhyrchu 7084 litr y fuwch y flwyddyn ar gyfartaledd, gyda 4.64% braster menyn a 3.67% protein. Mae gan y fuches, sy’n lloia yn yr awyr agored, gyfartaledd 5 mlynedd uchel o 93% o fuchod yn lloia o fewn 8 wythnos cyntaf y bloc. Mae’r holl fuchod allan yn pori o ddechrau Chwefror hyd ddiwedd Tachwedd, ac mae’r dwysedd stocio cyfartalog yn 3.65 UDB/ha ar hyd y flwyddyn. Cynhyrchir 3872 litr o borthiant, a chaiff yr holl anifeiliaid amnewid eu magu ar y fferm.
Am y siaradwr:
Mae gan Chris dros 20 mlynedd o brofiad ymarferol mewn amaethyddiaeth, yn ymgynghori ac yn rheoli busnesau fferm. Mae’n hynod o frwdfrydig ynghylch ffermio, yn sgil ei fagwraeth ar fferm y teulu yn Nyfnaint. Mae Chris yn adnabyddus o fewn y diwydiant, ac mae’n gweithio gyda ffermwyr ar raddfa genedlaethol
Sectors:
If you have any questions about this event, please contact us using the details below.