Pembrokeshire: Maenhir Strategic Dairy Farm Launch

Past Event - booking closed

Wednesday, 13 October 2021

10:30am - 2:30pm

Maenhir, Login, Whitland, Carmarthenshire

SA34 0XE


Join us and Farming Connect for the launch of our latest strategic dairy farm, Maenhir, run by brothers Richard and Joe Twose and their families on the border of Carmarthenshire and Pembrokeshire.

A traditional family farm, the Twose family originally moved to Maenhir in 1975. Starting with 120 acres, the farm now consists of 700 acres which today supports 400 head of pedigree Holsteins, along with some Shorthorn and Jersey cattle. The all year round calving herd, with an autumn weighting, is managed by the Twose brothers and their parents in a family partnership.

At this event you’ll find out more about the business, meet the team and take part in a farm tour. We’ll examine the farm’s technical performance against AHDB’s KPIs and explore the long-term vision for the business. This will include a look at their key focus areas of: 

  • Reducing cases of lameness in the herd
  • Improving fertility
  • Improving soils and reducing the farm’s carbon footprint


About Maenhir

Maenhir is a 700 acre, traditional family farm owned and run by the Twose family near Login in Carmarthenshire.

Supplying Tesco, they run all year round calving herd, with an autumn weighting. The herd currently consists of around 400 pedigree Holsteins, with some Shorthorns and Jerseys, and between 200-250 followers.

The herd are achieving an average yield of 9000 kilos with 3.39% protein and 4.12% butter fat. They have excellent conception rates with their heifers and have an average age of first calving between 22–24 months.

The team at Maenhir also run 600 pedigree Lleyn sheep and almost 90 Hereford beef cattle as separate enterprises.

About Strategic Dairy Farms

Strategic dairy farms help farmers learn from each other through regular on-farm meetings where we will share key performance data and showcase what the best farmers are doing. 

They form part of the Optimal Dairy Systems programme which aims to help dairy farmers lower costs and increase efficiency by focusing on either a block or all-year-round calving system. 

The growing network of strategic dairy farms have calculated key performance indicators (KPIs) for their enterprises which are shared at meetings and published online. These are physical and financial performance measures that are critical to success. Farmers can benchmark their businesses against these KPIs and identify areas for improvement. 

Follow the programme and find other local SDFs at www.ahdb.org.uk/farm-excellence

Sir Benfro: Lansio Fferm Laeth Strategol Maenhir

Ymunwch â ni a Cyswllt Ffermio ar gyfer lansiad ein fferm laeth strategol ddiweddaraf, sef Maenhir, sy'n cael ei rhedeg gan y brodyr Richard a Joe Twose a'u teuluoedd ar y ffin rhwng Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.

Mae Maenhir yn fferm deuluol draddodiadol, a symudodd y teulu Twose yno'n wreiddiol yn 1975. Wedi dechrau gyda 120 erw, mae'r fferm 'nawr yn cynnwys 700 erw sydd, erbyn hyn, yn cynnal 400 o wartheg Holstein pedigri, ynghyd ag ychydig o wartheg Byrgorn a Jersey. Mae'r fuches, sy'n bwrw lloi trwy'r flwyddyn, gyda nifer o'r lloi yn cael eu geni yn yr hydref, yn cael ei rheoli gan y brodyr Twose a'u rhieni mewn partneriaeth deuluol.

Yn y digwyddiad hwn, byddwch yn cael rhagor o wybodaeth am y busnes, yn cwrdd â'r tîm, ac yn cymryd rhan mewn taith o amgylch y fferm. Byddwn yn archwilio perfformiad technegol y fferm mewn perthynas â dangosyddion perfformiad allweddol AHDB, ac yn trafod y weledigaeth hirdymor ar gyfer y busnes. Bydd hyn yn cynnwys edrych ar y meysydd ffocws allweddol, sef: 

  • Lleihau nifer yr achosion o gloffni yn y fuches
  • Gwella ffrwythlondeb
  • Gwella priddoedd a lleihau ôl troed carbon y fferm


Ynglŷn â Maenhir

Mae Maenhir yn fferm deuluol draddodiadol, 700 erw sy'n eiddo i'r teulu Twose ac yn cael ei rhedeg ganddo.

Mae'n cyflenwi Tesco ac yn cynnal buches sy'n bwrw lloi trwy'r flwyddyn, gyda nifer o'r lloi yn cael eu geni yn yr hydref. Ar hyn o bryd, mae'r fuches yn cynnwys tua 400 o wartheg Holstein pedigri, gydag ychydig o wartheg Byrgorn a Jersey, a rhwng 200 a 250 o ddilynwyr.

Mae'r fuches yn cyflawni cynhyrchiant cyfartalog o 9,000 kg gyda 3.39% protein a 4.12% braster menyn. Mae'r gyfradd feichiogi yn rhagorol ymhlith yr heffrod, ac mae'r oedran cyfartalog ar gyfer bwrw llo am y tro cyntaf rhwng 22 a 24 mis.

Mae'r tîm ym Maenhir hefyd yn cynnal 600 o ddefaid Lleyn pedigri a bron 90 o wartheg eidion Hereford yn fentrau ar wahân.

Ynglŷn â Ffermydd Llaeth Strategol

Mae ffermydd llaeth strategol yn helpu ffermwyr i ddysgu oddi wrth ei gilydd drwy gyfarfodydd rheolaidd ar ffermydd, lle rhennir data perfformiad allweddol ac arddangosir beth mae’r ffermwyr gorau yn ei wneud. 

Maent yn ffurfio rhan o’r rhaglen ‘Optimal Dairy Systems’, sy’n anelu at helpu ffermwyr llaeth i leihau costau a chynyddu effeithlonrwydd, drwy ganolbwyntio ar un ai system lloia mewn bloc neu system lloia trwy’r flwyddyn. 

Mae gan ein rhwydwaith cynyddol o ffermydd llaeth strategol ddangosyddion perfformiad allweddol cyfrifedig ar gyfer eu mentrau, a rennir mewn cyfarfodydd, ac a gyhoeddir ar-lein.  Mae’r rhain yn mesur perfformiadau corfforol ac ariannol sy’n hanfodol er mwyn llwyddo.  Gall ffermwyr feincnodi eu busnesau yn erbyn y dangosyddion perfformiad allweddol hyn i’w helpu i nodi meysydd i’w gwella. 

Dilynwch y rhaglen a dewch o hyd i Ffermydd Llaeth Strategol eraill yn www.ahdb.org.uk/farm-excellence

Sectors:


If you have any questions about this event, please contact us using the details below.

E ke.events@ahdb.org.uk

T 01904 771216


×