Optimising slurry value and storage
Webinar recording
Join us to hear how strategic dairy farm host, Arthur Owen, is maximising value from slurry by upgrading storage and improving its use at Bodysgaw Isa.
Having sufficient slurry storage - allows for improved management and control. It enables you to spread slurry so grass and forage crops can make best use of its nutrients.
In this webinar, you’ll learn how to make the best use of slurry and hear from Will Phillips, Dairy Consultant of P&L AgriConsulting who will discuss slurry storage options including costs, legal requirements, and the impact of the new Water Resource Regulations in Wales.
Arthur will share his own experiences and how he plans to invest in a new slurry storage for his farm at Bodysgaw Isa.
In this session we will cover:
- Solutions for slurry storage – the options, costs, and considerations.
- Calculating storage required for your dairy farm.
- The real value of slurry – making best use of this nutrient resource.
- How Arthur Owen will increase storage capacity and meet the new Water Resource Regulation requirements in Wales.
Register now to learn more about the different options for slurry storage and making the best use out of slurry.
To find out more about the New Water Resource Regulations, what the requirements are, and when they come into force, please watch AHDB’s recent webinar: New water resources regulation in Wales
This project has received funding through the Welsh Government Rural Communities - Rural Development Programme 2014-2020, which is funded by the European Agricultural Fund for Rural Development and the Welsh Government. It is supported in Wales by Farming Connect.
About Will Phillips – P&L AgriConsulting
Will Phillips has extensive experience as a farm management consultant. Following work with a national consultancy company, he set up P&L AgriConsulting with Peter Long in 2003. Will specialises in waste management, farm buildings and planning. Will works closely with Farming Connect in Wales and with AgriPlan Cymru, offering specialist consultancy to farmers. A key part of Will’s work is to help farmers find effective solutions to ‘infrastructure’ problems and to help farmers meet regulations. With many years’ experience helping farmers meet NVZ regulations, Will aims to help farmers through the new Water Regulations recently introduced in Wales.
Prior to consultancy work, he gained five years ruminant nutrition experience with a feed manufacturer and he has over five years practical farm management experience.
About Bodysgaw Isa
Bodysgaw Isa is a 185ha (457ac), all grass tenanted farm on the Cefn Estate, in Conwy. Farmed by the Owen family since 1939, they run an autumn block calving herd which is comprised of 380 New Zealand type Friesian Crossbreds, producing 7,307L/cow and 606kg MS/cow. All cows calve down on grass, with low incidence rates of milk fever. Calving begins on 1st September, with 93% of cows calved within 8 weeks. Milk is sold through Arla.
With a grazing platform of 103ha (255ac), Arthur aims to graze from February until late November. All replacements are home reared, with surplus livestock sold. The farm operates with minimal machinery and extensive use of contractors.
As part of the SDF project, AHDB will help Bodysgaw achieve goals including; to fine tune the business to profitably raise milk production from forage (grass and silage), control and reduce Johne’s and Neospora and upgrade slurry storage and utilisation on farm.
Find out more about Bodysgaw Isa’s story by visiting www.ahdb.org.uk/farm-excellence/Bodysgaw-Isa or get the latest updates by searching for #SDFBodysgawIsa on Twitter.
About Strategic Dairy Farms
Strategic dairy farms help farmers learn from each other through regular on-farm meetings where we will share key performance data and showcase what the best farmers are doing.
They form part of the Optimal Dairy Systems programme which aims to help dairy farmers lower costs and increase efficiency by focusing on either a block or all-year-round calving system.
The growing network of strategic dairy farms have calculated key performance indicators (KPIs) for their enterprises which are shared at meetings and published online. These are physical and financial performance measures that are critical to success. Farmers can benchmark their businesses against these KPIs and identify areas for improvement.
Follow the programme and find other local SDFs at www.ahdb.org.uk/farm-excellence/dairy
Ymunwch â ni i glywed sut mae’r ffermwr llaeth strategol, Arthur Owen, yn cael y gwerth gorau o’i slyri drwy uwchraddio’i storfa slyri a gwneud gwell defnydd ohono ym Modysgaw Isa.
Mae cael storfa slyri ddigonol yn golygu bod modd ei reoli’n well. Mae’n caniatáu ichi wasgaru slyri fel bod glaswellt a chnydau porthiant yn gallu gwneud y defnydd gorau o’i faetholion.
Yn y weminar hon, byddwch yn dysgu sut i wneud y defnydd gorau o slyri ac yn clywed gan Will Phillips, Ymgynghorydd Llaeth P&L AgriConsulting, a fydd yn trafod opsiynau o ran storio slyri, gan gynnwys costau, gofynion cyfreithiol, ac effaith y Rheoliadau Adnoddau Dŵr newydd yng Nghymru.
Bydd Arthur yn rhannu ei brofiadau ei hun a sut mae’n bwriadu buddsoddi mewn storfa slyri newydd ar fferm Bodysgaw Isa.
Yn y sesiwn hon byddwn yn trafod:
- Atebion o ran storio slyri – yr opsiynau, costau ac ystyriaethau.
- Sut i bennu maint y storfa sydd ei hangen ar eich fferm laeth.
- Gwerth go iawn slyri – gwneud y defnydd gorau o’r maetholion sydd ynddo.
- Sut y bydd Arthur Owen yn cynyddu maint ei storfa ac yn cwrdd â gofynion y Rheoliadau Adnoddau Dŵr newydd yng Nghymru.
Cofrestrwch nawr i ddysgu mwy am y gwahanol opsiynau ar gyfer storio slyri a gwneud y defnydd gorau o slyri.
I gael gwybod mwy am y Rheoliadau Adnoddau Dŵr newydd, beth yw’r gofynion, a phryd y byddant yn dod i rym, gwyliwch weminar ddiweddar AHDB: Rheoliadau adnoddau dŵr newydd yng Nghymru
Mae’r prosiect hwn wedi derbyn cyllid drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariannir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru. Fe’i cefnogir yng Nghymru gan Cyswllt Ffermio.
Am Will Phillips – P&L AgriConsulting
Mae gan Will Phillips brofiad helaeth fel ymgynghorydd rheoli ffermydd. Ar ôl gweithio gyda chwmni ymgynghori cenedlaethol, mi sefydlodd P&L AgricConsulting gyda Peter Long yn 2003. Mae Will yn arbenigo mewn rheoli gwastraff, adeiladau fferm, a chynllunio. Mae Will yn gweithio’n agos â Cyswllt Ffermio yng Nghymru, a chydag AgriPlan Cymru, yn cynnig gwasanaeth ymgynghori arbenigol i ffermwyr. Rhan allweddol o waith Will yw helpu ffermwyr i ddod o hyd i atebion effeithiol i broblemau ‘seilwaith’, a helpu ffermwyr i gwrdd â rheoliadau. Gyda blynyddoedd lawer o brofiad o helpu ffermwyr i gwrdd â rheoliadau NVZ, nod Will yw helpu ffermwyr drwy’r Rheoliadau Dŵr newydd a gyflwynwyd yn ddiweddar yng Nghymru.
Cyn y gwaith ymgynghori, cafodd bum mlynedd o brofiad mewn maetheg anifeiliaid cnoi cil gyda chwmni bwydydd anifeiliaid, ac mae ganddo dros bum mlynedd o brofiad ymarferol ym maes rheoli ffermydd.
Am Bodysgaw Isa
Mae Bodysgaw Isa’n fferm denant gyda 185 hectar (457 acer) o dir pori sy’n rhan o Ystâd Cefn yng Nghonwy. Mae wedi’i ffermio gan deulu’r Oweniaid ers 1939. Mae’r fuches, sy’n lloia’n yr hydref, yn cynnwys 380 o fuchod Friesian croes math Seland Newydd sy’n cynhyrchu 7,307 litr o laeth y fuwch a 606kg o gynnyrch llaeth solet y fuwch. Mae’r holl fuchod yn lloia yn yr awyr agored, ac mae nifer yr achosion o dwymyn llaeth yn isel. Mae’r lloia’n dechrau ar 1af Medi, gyda 93% o’r buchod wedi lloia o fewn 8 wythnos. Gwerthir y llaeth drwy Arla.
Mae’r tir pori’n ymestyn dros 103 hectar (255 acer), a nod Arthur yw pori o Chwefror hyd tua diwedd Tachwedd. Mae’r holl anifeiliaid amnewid yn cael eu magu ar y fferm, a gwerthir unrhyw stoc sydd dros ben. Mae’r fferm yn defnyddio cyn lleied â phosib o beiriannau a gwneir defnydd helaeth o gontractwyr.
Fel rhan o’r prosiect Ffermydd Llaeth Strategol, bydd AHDB yn helpu Bodysgaw i gyflawni amcanion megis mireinio’r busnes a chynyddu’r elw drwy gynhyrchu mwy o laeth o borthiant (porfa a silwair), rheoli a lleihau achosion o glefyd Johne a Neospora, a gwella dulliau o storio a defnyddio slyri.
Dysgwch fwy am stori Bodysgaw Isa drwy fynd i www.ahdb.org.uk/farm-excellence/Bodysgaw-Isa neu darllenwch yr hanes diweddaraf drwy chwilio am #SDFBodysgawIsa ar Twitter
Am Ffermydd Llaeth Strategol
Mae ffermydd llaeth strategol yn helpu ffermwyr i ddysgu oddi wrth ei gilydd drwy gyfarfodydd rheolaidd ar ffermydd, lle rhennir data perfformiad allweddol ac arddangosir beth mae’r ffermwyr gorau yn ei wneud.
Maent yn ffurfio rhan o’r rhaglen Systemau Llaeth Gorau (‘Optimal Dairy Systems’), sy’n anelu at helpu ffermwyr llaeth i leihau costau a chynyddu effeithlonrwydd, drwy ganolbwyntio ar un ai system lloia mewn bloc neu system lloia trwy’r flwyddyn.
Mae gan ein rhwydwaith cynyddol o ffermydd llaeth strategol ddangosyddion perfformiad allweddol cyfrifedig, a rennir mewn cyfarfodydd, ac a gyhoeddir ar-lein. Mae’r rhain yn mesur perfformiadau corfforol ac ariannol sy’n hanfodol er mwyn llwyddo. Gall ffermwyr feincnodi eu busnesau yn erbyn y dangosyddion perfformiad allweddol hyn a nodi meysydd i’w gwella.
Dilynwch y rhaglen a dod i hyd i Ffermydd Llaeth Strategol eraill yn eich ardal chi ar www.ahdb.org.uk/farm-excellence/dairy
Sectors:
If you have any questions about this event, please contact us using the details below.
