Newid ymddygiad ffermwyr – ffordd newydd ymlaen - Gweminar

Past Event

Wednesday, 15 February 2023

11:30am - 1:00pm


Ymunwch ag AHDB i glywed sut mae pecyn cymorth, a rheoli data ar ffermydd mewn ffordd ragweithiol, wedi arwain at newid persbectif ffermwyr llaeth ar reoli clefydau.  Yn ogystal â newid ymddygiad, cewch glywed sut mae cymorth cynhwysfawr (HerdAdvance) wedi arwain at gynnydd cyffredinol o ran iechyd anifeiliaid a chynhyrchedd ar y ffermydd a gymerodd ran.

"HerdAdvance oedd y cymhelliad oedd ei angen arnaf i fynd i’r afael â materion ar y fferm.  Rhoddodd y cymorth a’r anogaeth yr hyder imi wneud newidiadau"

Ers ei lansio yn 2019, mae HerdAdvance wedi cynorthwyo dros 500 o ffermwyr llaeth yng Nghymru i roi mesurau yn eu lle i wella iechyd a lles anifeiliaid, drwy fabwysiadu technegau rhagataliol wrth gynllunio iechyd y fuches.

Roedd y prosiect peilot yn darparu cymorth un i un i ffermwyr ac yn helpu ffermwyr a milfeddygon i weithio gyda’i gilydd i sicrhau dull cyfunol a holistig o fynd i’r afael â phryderon am iechyd a lles anifeiliaid llaeth, gan wneud defnydd o ddata hefyd i wneud penderfyniadau rheoli gwybodus.

Bydd AHDB, ynghyd ag arbenigwyr y diwydiant a gwerthuswyr HerdAdvance, James Breen a David Rose, yn cyflwyno canfyddiadau’r prosiect HerdAdvance gan ganolbwyntio ar:

  • Ddeall sut y cafodd nodau ac amcanion y prosiect eu bodloni
  • Newidiadau yn ymddygiad ffermwyr yn sgil cymryd rhan yn y prosiect
  • Mesur canlyniadau o ran gwelliannau i iechyd a lles anifeliaid
  • Yr effaith y gall yr hyn a ddysgwyd ei gael ar gyfleoedd ariannu yn y dyfodol

Mae HerdAdvance yn rhan o’r Rhaglen Gwella’r Sector Llaeth pum mlynedd, sydd wedi derbyn cyllid drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, sy’n cael ei hariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

I gael mwy o wybodaeth am y digwyddiad, e-bostiwch Teaghan Tayler – Uwch Reolwr Cyfnewid Gwybodaeth AHDB Cymru teaghan.tayler@ahdb.org.uk.

Bywgraffiadau Siaradwyr

James Breen BVSc PhD DCHP MRCVS - RCVS Recognised Specialist in Cattle Health & Production

Graddiodd James fel milfeddyg o Brifysgol Bryste yn 1998, ac ar ôl gweithio gydag anifeiliaid anwes ac anifeiliaid fferm fel cynorthwyydd milfeddygol mewn practis yng Ngwlad yr Haf, dychwelodd i Fryste yn 2001 i wneud cyfnod preswyl ym maes Meddyginiaeth Anifeiliaid Fferm.  Yn ddiweddarach, ymunodd â’r Athro Andrew Bradley a’r Athro Martin Green i weithio ar brosiect ymchwil cenedlaethol i fastitis mewn buchod llaeth dan y Cyngor Datblygu Llaeth (MDC), a chymerodd ran yn natblygiad Cynllun Rheoli Mastitis Cenedlaethol AHDB.  Yn dilyn hynny, cwblhaodd gyfnod preswyl tair blynedd gydag Ymddiriedolaeth Coleg Brenhinol y Milfeddygon (RCVS) mewn Cynhyrchu Meddyginiaethau Anifeiliaid, gan rannu ei amser rhwng y practis yng Ngwlad yr Haf, gwaith labordy ymgynghorol i QMMS Ltd ac ymchwil i fastitis.  Ar hyn o bryd mae’n rhannu ei amser rhwng addysgu yn Ysgol Filfeddygol Prifysgol Nottingham a gwaith ymgynghori annibynnol i Map of Ag, gan weithio gyda ffermwyr llaeth a’r gadwyn gyflenwi, yn ogystal â gweithio’n rhan-amser mewn practis llaeth yn Glastonbury.  Mae ganddo dystysgrif RCVS mewn Iechyd a Chynhyrchu Gwartheg (2003) a Diploma RCVS mewn Iechyd a Chynhyrchu Gwartheg (2008) a chafodd PhD am ei astudiaethau i ffactorau risg mastitits clinigol a chyfrif celloedd somatig uwch mewn buchod.  Mae’n Arbenigwr RCVS cydnabyddedig ym maes  Iechyd a Chynhyrchu Gwartheg.

David Rose - Professor of Sustainable Agricultural Systems, Cranfield University

Mae David yn Ddaearyddwr Gwledig ac mae’n arwain y Grŵp Newid mewn Amaethyddiaeth, sydd wedi’i rannu rhwng Cranfield (a ymunodd ym Mai 2022) a Reading am y tro.  Mae’r grŵp yn gweithio ar agweddau o ehangu ffermydd - gan ymgysylltu, gwrando, ac ymateb i farn ffermwyr a rhanddeiliaid eraill ar newidiadau polisi, arloesi, neu dechnoleg.  Mae gennym ddiddordeb yn y ffordd mae newidiadau mewn amaethyddiaeth yn effeithio ar bobl, cynhyrchedd, a’r blaned, gyda ffocws arbennig ar iechyd meddwl, dysgu ffermwyr, llywodraethu, trosglwyddiadau teg, lles anifeiliaid, newid ymddygiad, ac arloesi cyfrifol.

Sectors:


If you have any questions about this event, please contact us using the details below.

T KE.events@ahdb.org.uk


Other Events

×