Hendy-gwyn ar Daf : Targedu Sero Net – Iechyd a Pherfformiad y Fuches

Past Event - booking closed

Wednesday, 02 November 2022

11:00am - 2:30pm

Blaengello, Cwmbach, Hendy-gwyn ar Daf ,

SA35 0DE


Mae lleihau ôl troed carbon yn uchel ar yr agenda gwleidyddol, ond mi fydd trywydd y siwrnai hon yn amrywio o fferm i fferm.

Ymunwch ag AHDB a Cyswllt Ffermio ar gyfer cyfres o dri chyfarfod yr hydref hwn yn canolbwyntio ar ddulliau gwahanol o leihau ôl troed carbon ar ffermydd llaeth.

Mi fyddwn yn cael cwmni:

Sara Melo, milfeddyg y fferm, Ken March, eu maethegydd, a Russell Thomas o Kite Consulting Ltd, i ddeall ble mae Blaengelli arni o ran allyriadau carbon, ac i glywed sut mae newidiadau diweddar i arferion y fferm wedi gwella iechyd a pherfformiad y fuches a gwella eu hôl troed carbon.

Yn ystod y digwyddiad hwn byddwch yn dysgu:

  • Sut mae rheoli cyfnod pontio’r fuwch wedi gwella perfformiad y fuches
  • Sut y gall sicrhau cyfraddau twf lloi arwain at fwrw targedau lloia dwy flynedd
  • Pa effaith y gall y mesurau hyn, ac eraill, eu cael ar eich ôl troed carbon
  • Bod iechyd y fuches a chynhyrchedd yn bwysig o ran llwyddiant ariannol ac ôl troed carbon
  • Sut y mae teulu Howells wedi rhoi mesurau ar waith sydd o fudd i’r naill agwedd a’r llall o’u busnes.

Am y fferm

Mae Roger a Catherine yn rhedeg buches gaeedig o 160 o fuchod ym Mlaengelli gyda’u merch Sarah.  Mae’r buchod yn lloia trwy’r flwyddyn ac yn cynhyrchu 11,000 litr o laeth ar gyfartaledd ar system odro ddwywaith y dydd.  Mae’r buchod godro’n pori dros fisoedd yr haf ond cedwir y buchod sych dan do er mwyn cadw rheolaeth dynnach ar eu maeth.  Defnyddir semen yn ôl ei ryw i gael y nifer fwyaf o heffrod amnewid i loia’n ddwyflwydd oed.

Am y siaradwyr

Sara – graddiodd o UTAD (Portiwgal) yn 2014.  Yn chwilio am antur newydd, ymunodd â Dyfed Farm Vets yn 2017, yn dilyn tair blynedd o weithio mewn milfeddygfa anifeiliaid fferm yng Ngogledd Portiwgal.  Mae gan Sara ddiddordeb brwd ymhob agwedd o iechyd y fuches ar fferm laeth, ac yn arbennig atgynhyrchu, mastitis, a chloffni.

Ken  - mae’n Arbenigwr Llaeth yn ardal Aberystwyth, yn gweithio fel ymgynghorydd i Wynnstay Agri plc, yn ogystal â bod yn gyfarwyddwr Perfekt Cow Nutrition Ltd.  Mae wedi gweithio yn y sector llaeth am dros 30 mlynedd a’i ddiddordeb arbennig yw maeth asid amino a diffyg protein.

Russell  - fe’i magwyd ar fferm laeth yn Sir Gâr, bu’n gweithio i Genus am 8 mlynedd a threuliodd 11 mlynedd gyda’r WDA a Llywodraeth Cymru, ac roedd yn gyfrifol am y rhaglen ymgynghori a lansiodd Cyswllt Ffermio.  Dros y 12 mlynedd diwethaf mae wedi bod yn weithiwr cyswllt i Kite Consulting.  Mae ei brofiad yn cynnwys ymgynghori â busnesau fferm,  arbenigo yng nghostau cynhyrchu’r sector llaeth, rheoli maethynnau, ac archwiliadau carbon.

Sectors:


If you have any questions about this event, please contact us using the details below.

E KE.Events@AHDB.org.uk


×