Defnyddio data fferm i wella iechyd carnau

Past Event

Wednesday, 23 March 2022

11:00am - 1:30pm


Ymunwch at AHDB a Cyswllt Ffermio ar gyfer gweminar gyda’r ffermwr llaeth strategol, Arthur Owen, i ddysgu sut i wella iechyd carnau.

Mae lleihau cloffni’n un o’r heriau mwyaf sy’n wynebu diwydiant llaeth y DU.  Mae’n effeithio ar iechyd y fuwch, dirnadaeth y cyhoedd, a pherfformiad ariannol.  Mae canfod a thrin buchod cloff yn gyflym ac yn effeithiol yn allweddol er mwyn taclo’r problemau hyn, ac mae wedi sbarduno teulu’r Oweniaid i sgorio symudedd yn fisol. 

Yn y weminar hon bydd Arthur yn cael cwmni Sara Pedersen o Farm Dynamics, i drafod sut all y tîm ym Modysgaw sicrhau eu bod yn nodi ac yn trin buchod cloff yn effeithiol, gan fabwysiadu dull holistig o leihau’r ffactorau risg mewn perthynas ag iechyd carnau gwael.

 Yn y sesiwn hon byddwch yn dysgu am: 

  • Bwysigrwydd sgorio symudedd a nodi cloffni’n gynnar
  • Cadw cofnodion effeithiol
  • Y dull gorau o docio carnau a thrin achosion o gloffni
  • Trosolwg o raglenni Healthy Feet Lite a Healthy Feet AHDB
  • Sut i ddefnyddio data’r fferm fel rhan o gynllun carnau iach

Am Bodysgaw Isa

Mae Bodysgaw Isa wedi bod dan denantiaeth teulu’r Oweniaid ar Ystâd Cefn ers 1939.  Mae’r fferm, a reolwyd gan ei daid i ddechrau, yn cael ei rhedeg erbyn hyn gan Arthur Owen gyda’i ddau fab, Guto a Gwion, ei wraig Marian, a’i dad yng nghyfraith, Clwyd. 

Mae’r fuches, sy’n lloia’n yr hydref, yn cynnwys 375 o fuchod Friesian croes ‘gofal hawdd’ sy’n cynhyrchu 7077 litr (587kg CLlS) y fuwch pob blwyddyn, gyda 4.65% braster menyn a 3.65% protein.  Mae gan y fuches, sy’n lloia yn yr awyr agored, gyfartaledd 5 mlynedd uchel o 93% o fuchod yn lloia o fewn 8 wythnos cyntaf y bloc.  Mae’r holl fuchod allan yn pori o ddechrau Chwefror hyd ddiwedd Tachwedd, ac mae’r dwysedd stocio cyfartalog yn 3.65 UDB/ha ar hyd y flwyddyn.  Caiff yr holl anifeiliaid amnewid eu magu ar y fferm. 

Dysgwch fwy am stori Bodysgaw Isa drwy fynd i www.ahdb.org.uk/bodysgaw-isa

 

Am Sara Pedersen - Farm Dynamics

Mae Sara Pedersen yn llawfeddyg milfeddygol sy’n arbenigo mewn iechyd carnau gwartheg.  Mae’n rhedeg Farm Dynamics Ltd., sef busnes ymgynghori milfeddygol, mae’n arbenigwr RCVS ym maes iechyd a chynhyrchu gwartheg, ac mae ganddi Ddiploma ym maes atgenhedlu gwartheg.  Ar hyn o bryd mae’n astudio ar gyfer PhD mewn cloffni gwartheg ym Mhrifysgol Nottingham.

 

Am Ffermydd Llaeth Strategol

Mae ffermydd llaeth strategol yn helpu ffermwyr i ddysgu oddi wrth ei gilydd drwy gyfarfodydd rheolaidd ar ffermydd, lle rhennir data perfformiad allweddol ac arddangosir beth mae’r ffermwyr gorau yn ei wneud.

Maent yn ffurfio rhan o’r rhaglen Systemau Llaeth Gorau (‘Optimal Dairy Systems’), sy’n anelu at helpu ffermwyr llaeth i leihau costau a chynyddu effeithlonrwydd, drwy ganolbwyntio ar un ai system lloia mewn bloc neu system lloia trwy’r flwyddyn. 

Mae gan ein rhwydwaith cynyddol o ffermydd llaeth strategol ddangosyddion perfformiad allweddol cyfrifedig, a rennir mewn cyfarfodydd, ac a gyhoeddir ar-lein.  Mae’r rhain yn mesur perfformiadau corfforol ac ariannol sy’n hanfodol er mwyn llwyddo.  Gall ffermwyr feincnodi eu busnesau yn erbyn y dangosyddion perfformiad allweddol hyn a nodi meysydd i’w gwella. 

Dilynwch y rhaglen a chanfod Ffermydd Llaeth Strategol eraill lleol ar www.ahdb.org.uk/farm-excellence

Sectors:


If you have any questions about this event, please contact us using the details below.

E ke.events@ahdb.org.uk

T 01904 771216


Other Events

×