Cynyddu cadernid busnes fferm

Past Event

Tuesday, 15 February 2022

11:00am - 1:00pm


Ymunwch ag AHDB a Cyswllt Ffermio ar gyfer gweminar gyda’r ffermwyr llaeth strategol, John ac Anna Booth, i ddysgu sut i gynyddu gwydnwch eich busnes.

Mae adeiladu busnes cadarn yn hanfodol i wrthsefyll natur anwadal pris llaeth a chostau cynhyrchu.  Mae craidd busnes cadarn yn cynnig opsiynau i gynhyrchu incwm ychwanegol drwy arallgyfeirio ar y fferm a buddsoddi oddi ar y fferm. 

Yn y weminar hon, bydd John ac Anna yn cael cwmni Oliver Hall, Uwch Ymgynghorydd Busnes Fferm yn The Anderson Centre, i drafod sut gall y tîm yn Rhual Dairy sicrhau eu bod yn rheoli busnes cadarn, a beth i’w ystyried wrth ymchwilio i opsiynau dargyfeirio. 

Yn y sesiwn hon byddwch yn dysgu am: 

  • Bwysigrwydd monitro a chyllido ariannol
  • Y prif Ddangosyddion Perfformiad Allweddol (KPIs) i’w defnyddio i asesu perfformiad
  • Opsiynau dargyfeirio
  • Beth i’w ystyried wrth ddargyfeirio
  • Yr heriau unigryw i ffermwyr cyfran o’u cymharu â pherchen-feddianwyr a ffermwyr tenant

Am Rhual Dairy

Wedi’i lleoli ger Yr Wyddgrug yn Ngogledd Ddwyrain Cymru, mae Rhual yn fferm 220ha.  Mae 182ha o hwnnw’n laswelltir (gyda 50% o hwnnw’n dir parc), 21ha yn india-corn, ac 11ha yn farlys gwanwyn.  Mae’r fferm wedi gweithredu dan gyfyngiadau Perygl Nitradau ers blynyddoedd lawer. 

Mae’r fuches o 336 o wartheg Holstein Friesian, sy’n lloia trwy’r flwyddyn, yn cynhyrchu 8,472 litr y fuwch bob blwyddyn ar gyfartaledd, sy’n 3.89% braster menyn a 3.29% protein.  Mae’r holl anifeiliaid amnewid yn cael eu magu ar y fferm ac yn lloia’n 24 mis oed, gan gyfrannu at eu cyfradd amnewid isel o 22%.  Adeiladwyd sied gwartheg trawsnewid newydd i reoli’r cyfnod trawsnewid a buchod sych yn well, cyn ac ar ôl lloia, a gwnaed gwelliannau i’r siediau gwartheg yn ddiweddar, megis gwella’r awyru, goleuadau LED ar system amseru, a chreu mwy o le bwyta ar gyfer y buchod. 

Ar ôl i’r ddau raddio o goleg Harper Adams yn 1997, gweithiodd John i ddechrau fel rheolwr fferm cynorthwyol ac Anna fel arbenigwr llaeth, cyn iddynt ddechrau ffermio cyfran yn Rhual Dairy yn 2001.  Ers 2001, maent wedi cynyddu nifer y stoc a’r lefelau cynhyrchu, ac wedi gwella seiliwaith y fferm yn sylweddol.  Eu huchelgais fel Ffermwyr Strategol yw parhau i ddatblygu eu system gadarn, a chael mwy o gynnyrch o’u 91ha o Dir Parc, gan hefyd greu mwy o amser rhydd o’u gwaith beunyddiol i fod gyda’r teulu. 

Dysgwch fwy am stori Rhual Dairy drwy fynd i www.ahdb.org.uk/rhual-dairy

 

Am Oliver Hall - The Andersons Centre

Mae Oliver Hall yn bartner ac yn Uwch Ymgynghorydd Busnes Fferm yn The Anderson Centre.

 

Am Ffermydd Llaeth Strategol

Mae ffermydd llaeth strategol yn helpu ffermwyr i ddysgu oddi wrth ei gilydd drwy gyfarfodydd rheolaidd ar ffermydd, lle rhennir data perfformiad allweddol ac arddangosir beth mae’r ffermwyr gorau yn ei wneud.

Maent yn ffurfio rhan o’r rhaglen Systemau Llaeth Gorau (‘Optimal Dairy Systems’), sy’n anelu at helpu ffermwyr llaeth i leihau costau a chynyddu effeithlonrwydd, drwy ganolbwyntio ar un ai system lloia mewn bloc neu system lloia trwy’r flwyddyn. 

Mae gan ein rhwydwaith cynyddol o ffermydd llaeth strategol ddangosyddion perfformiad allweddol cyfrifedig, a rennir mewn cyfarfodydd, ac a gyhoeddir ar-lein.  Mae’r rhain yn mesur perfformiadau corfforol ac ariannol sy’n hanfodol er mwyn llwyddo.  Gall ffermwyr feincnodi eu busnesau yn erbyn y dangosyddion perfformiad allweddol hyn a nodi meysydd i’w gwella.

 

Dilynwch y rhaglen a dod o hyd i Ffermydd Llaeth Strategol eraill lleol ar www.ahdb.org.uk/farm-excellence

Sectors:


If you have any questions about this event, please contact us using the details below.

E ke.events@ahdb.org.uk

T 01904 771216


Other Events

×