Arferion fferm i wella effeithlonrwydd carbon a pherfformiad busnes

Past Event - booking closed

Thursday, 07 July 2022

11:00am - 2:00pm

Rhual Dairy, Gwernaffield, Mold, Flintshire

CH7 5DB


Ymunwch ag AHDB a Cyswllt Ffermio i ddysgu am arferion fferm all gael effaith fuddiol ar ôl troed carbon y fferm, gan arbed costau ar yr un pryd.  Dyma gyfle i glywed gan Rachael Madeley-Davies o Kite Consulting a’r Ffermwyr Llaeth Strategol John ac Anna Booth am sut y gall perfformiad a phroffidioldeb eich fferm gael ei effeithio gan rai o’r gweithgareddau hyn.

Mae nifer o arferion fferm yn cael eu hyrwyddo fel rhai sy’n cael dylanwad positif ar effaith amgylcheddol ffermio.  Ond sut fyddai rhoi arferion o’r fath ar waith yn effeithio ar berfformiad busnes eich fferm chi?  Mae pwysau o du polisïau’r Llywodraeth, defnyddwyr a chadwyni cyflenwi yn eich annog i fabwysiadu mesurau carbon isel, ond sut mae’r rhain yn effeithio ar broffidioldeb y fferm?

Yn ystod y digwyddiad hwn byddwch yn dysgu mwy am:

  • Sut allwn ni ddylanwadu ar lefelau carbon yn y pridd?
  • Effaith cymysgeddau gwahanol o laswelltir a chyfundrefnau pori
  • Technegau amaethu a’u heffaith ar garbon yn y pridd
  • Sut y gall cnydau gorchudd a than-hau helpu i gynyddu stociau carbon

 

Am y fferm:

Mae John ac Anna Booth wedi bod yn ffermwyr cyfran yn Rhual Dairy ers 2001. Wedi’i lleoli ger Yr Wyddgrug yn Ngogledd Ddwyrain Cymru, mae Rhual yn fferm 220ha, gyda 182ha o hwnnw’n laswelltir (a 50% o hwnnw’n dir parc), 21ha yn india-corn, ac 11ha yn farlys gwanwyn.  Mae’r fferm wedi gweithredu dan gyfyngiadau Parth Perygl Nitradau ers blynyddoedd lawer.  Mae’r fuches o 336 o wartheg Holstein Friesian, sy’n lloia trwy’r flwyddyn, yn cynhyrchu 8,472 litr y fuwch y flwyddyn ar gyfartaledd, sy’n 3.89% braster menyn a 3.29% protein.  Mae’r holl anifeiliaid amnewid yn cael eu magu ar y fferm ac yn lloia’n 24 mis oed, gan gyfrannu at eu cyfradd amnewid isel o 22%.

Am y siaradwr:

Rachael Madeley Davies yw’r ymgynghorydd cynaliadwyedd arweiniol gyda Kite, a gall ddarparu darlun strategol o’r gadwyn gyflenwi gyfan mewn perthynas â datgarboneiddio, rheoli adnoddau naturiol a chynllunio bioamrywiaeth.  Mae Rachael wedi ysgrifennu erthyglau technegol ar y pwnc ac wedi cynnal adolygiadau o arfau ôl troed carbon ar gyfer mentrau llaeth y DU.  Mae gan Rachael brofiad helaeth o bolisïau amgylcheddol ac amaethyddol Cymru.

 

Sectors:


If you have any questions about this event, please contact us using the details below.

E KE.Events@ahdb.org.uk


×