- Home
- Rheoli cynnil ar gyfer ffermio llaeth gyda Jana Hocken
Rheoli cynnil ar gyfer ffermio llaeth gyda Jana Hocken
Mae rheoli cynnil yn helpu’r Ffermwyr Llaeth Strategol, Dylan a Hannah Harries i leihau gwastraff a gwella cynhyrchedd.
Fel rhan o’u taith fel Fferm Laeth Strategol, mae Dylan a Hannah Harris wedi gweitho gyda Jana Hocken a Rheolwr Cyfnewid Gwybodaeth AHDB, Jamie McCoy i gyflwyno egwyddorion rheoli cynnil ar eu fferm.
I Dylan, daeth yr awydd i ystyried rheoli cynnil wrth i’r fferm ehangu. Dywed - “mi ddaeth hi’n amlwg bod angen rhyw fath o reolaeth weledol arnon ni”. Yn 2016/17 mi wnaethon nhw gyflwyno byrddau gwyn a chynlluniau pori, ac erbyn hyn maen nhw’n ystyried “oriau gwaith fesul uned lafur” mewn ymdrech i sicrhau wythnos waith fwy rhesymol.
Dysgwch fwy am egwyddorion rheoli cynnil.
Elfen hanfodol o egwyddor rheoli cynnil yw gwelliant parhaus. Mae Jana’n awgrymu cael gweledigaeth ar gyfer eich busnes fferm ac ymdrechu’n barhaus i’w gwireddu. Mi fydd honno’n newid ac yn addasu dros amser.
Trwy wneud newidiadau a pharatoi’ch busnes ar gyfer amgylchiadau anffafriol gallwch wella gwydnwch eich menter.
Rhoi rheoli cynnil ar waith yn eich busnes chi
I gyflwyno rheoli cynnil ar eich fferm, nodwch eich problemau neu rwystredigaethau penodol. Mi fydd hynny’n eich helpu i ddewis eich maes blaenoriaeth, ac yn caniatáu ichi ystyried yr arfau rheoli cynnil mwyaf addas, i ddileu neu leihau eich gwastraff.
Er enghraifft, os mai cwtogi oriau yw eich blaenoriaeth, cymerwch gamau i ddeall sut mae amser eich tîm yn cael ei dreulio. Neu os mai cynyddu’ch lefelau cynhyrchu yw’r flaenoriaeth, dechreuwch drwy nodi beth sy’n eich atal rhag cyrraedd y targedau hynny.
Offer allweddol a chynghorion ymarferol
Pwysigrwydd creu rhestr ysgrifenedig o’ch tasgau
Yn ôl Jana, “mae cymryd yr wybodaeth o’n pennau a’i rhoi ar fformat gweladwy” yn hanfodol i wella effeithlonrwydd. Mae hyn yn sicrhau bod pawb sy’n rhan o’ch tîm yn gwybod pa feysydd neu dasgau maen nhw’n gyfrifol amdanynt, a bod pawb ar yr un dudalen.
Mae hyn hefyd yn ffordd hwylus o asesu sut mae eich amser yn cael ei dreulio a ph’un ai ydy’r ffocws ar y meysydd mwyaf gwerthfawr.
Roedd Dylan yn cytuno bod y broses hon wedi caniatáu iddyn nhw fod yn fwy trefnus, gan roi mwy o strwythur i’r diwrnod a rhyddhau amser yn y pen draw. Cafodd ei dîm drafodaeth agored ar sut i wneud y defnydd gorau o amser, ac o ganlyniad maent yn cael eu hegwyl ginio’n gynharach yn y dydd erbyn hyn. O’r blaen, dim ond 30 munud oedd ganddyn nhw rhwng cinio a godro yn y prynhawn, oedd yn aml yn cael ei wastraffu ar dasgau bach, llai pwysig ym marn y tîm. Erbyn hyn mae ganddyn nhw ddigon o amser i gwblhau tasgau mwy gwerthfawr.
Gwneud tasgau a metrigau’n weladwy i’ch tîm
Gall defnyddio byrddau gwyn a siartiau helpu i sicrhau eich bod chi a’ch tîm yn gallu blaenoriaethu, canolbwyntio, a gwella effeithlonrwydd. Mae’n golygu bod yr un wybodaeth ar gael i bawb.
Bydd graffiau gweledol hefyd yn caniatáu i’r tîm cyfan fonitro metrigau allweddol, a gwneud penderfyniadau allweddol yn seiliedig ar dueddiadau amser real.
I Dylan, mae hyn hefyd wedi cynnwys cyflwyno ‘rhestr siopa’ weledol i leihau tripiau i’w cyflenwyr, gan arbed amser a thanwydd.
Gall hefyd fod o gymorth i gynnwys rhestr cynnal a chadw fel bod aelodau’r tîm yn ymwybodol o unrhyw faterion ledled y fferm sydd angen sylw. Bydd hyn yn golygu bod llai o dripiau’n cael eu hailadrodd am fod modd cwblhau pob tasg o fewn un ardal ar yr un pryd.
Gall siart diogelwch helpu i nodi tueddiadau o ran damweiniau neu ddamweiniau fu bron a digwydd. Dylech farcio pob dydd gyda thic: gwyrdd am ddim damweiniau neu ddigwyddiadau; oren am ddamweiniau fu bron a digwydd; a choch am ddamwain neu ddigwyddiad. Bydd hyn yn eich helpu i nodi mannau gwan neu feysydd sy’n peri pryder.