- Home
- Projects
- Farm Excellence
- Sychpant (Welsh)
Sychpant (Welsh)
About Sychpant (Welsh)
- Ymunodd â’r rhwydwaith ffermydd llaeth strategol yn Haf 2025
- Buches o 300 o fuchod Pro-Cross yn lloia mewn bloc 12 wythnos yn yr hydref
- Yn cynhyrchu 6,500 litr y fuwch ar gyfartaledd
- 182 hectar gyda 60 hectar o dir godro
- Pori o ganol Ionawr tan ganol Tachwedd
Dilynwch Sychpant os oes gennych chi ddiddordeb mewn:
- Gwerthuso arferion presennol eich fferm i wneud yr elw mwyaf posib
- Gwella iechyd a ffrwythlondeb eich buches
- Gwneud penderfyniadau bridio i gael y perfformiad gorau o’ch buches
- Gwella seilwaith y fferm
- Cael y fferm i gynhyrchu gymaint â phosib
Trosolwg
Mae Sychpant yn fferm deuluol sy’n canolbwyntio ar bori a chael y mwyaf posib o laeth o borthiant
Mae Marcus yn rheoli’r fferm ochr yn ochr â’i wraig Vicki. Mae’r tîm hefyd yn cynnwys Will, gyrrwr tractor; Laura, prentis rhan-amser sy’n gofalu am y lloi; a godrwyr wrth gefn.
Ein fferm
Mae’r fferm, sydd wedi’i lleoli yng Nghastellnewydd Emlyn, yn gartref i Marcus Ferraro a’i deulu, ac mae’n ymestyn dros 60 hectar o dir sy’n berchen i’r fferm, a ddefnyddir fel yr ardal bori.
Mae ganddynt 122 hectar o dir rhent ychwanegol i ffwrdd o’r fferm, a ddefnyddir i wneud silwair.
Gyda’r ffocws ar gynhyrchu llaeth o borthiant, mae’r buchod yn pori gymaint â phosib. Mae’r tîm yn troi’r gwartheg allan mor gynnar â mis Chwefror ambell i flwyddyn ac yn dod â nhw mewn mor hwyr â chanol Tachwedd.
Mae Marcus yn anelu at wneud y toriad silwair cyntaf rhwng 5 a 20 Mai, yn dibynnu ar y tywydd.
Maent yn anelu at gynhyrchu digon o silwair o’r toriad cyntaf ac india-corn i fwydo’r buchod o adeg lloia hyd at Ionawr neu Chwefror.
Fel arfer caiff yr ail doriad ei droi’n fyrnau ar gyfer eu heffrod cyflo a’u buchod sych. Mae’r fferm hon yn cael twf da o borfa safonol yn gynnar yn y tymor. Fodd bynnag, mae’r twf yn arafu yn ystod yr haf oherwydd y gwres.
Ein buches
Mae’r fuches hon o 300 o fuchod Pro-Cross, sy’n lloia mewn bloc 12 wythnos yn yr hydref, yn cynhyrchu 6,500 litr y fuwch y flwyddyn ar gyfartaledd, gyda 4.52% braster menyn a 3.65% protein.
Mae’r buchod yn cael eu godro ddwywaith y dydd mewn parlwr saethben 16/32. Mae’r heffrod yn cael eu magu ar fferm arall, gan fridio 80-85 o anifeiliaid amnewid, gyda’r gweddill yn mynd yn gig eidion. Mae hyn am fod Marcus yn canolbwyntio ar hirhoedledd o fewn y fuches.
Mae Marcus wedi bod yn gweithio tuag at gael geneteg Pro-Cross yn y fuches – system croesfridio deirffordd sy’n cyfuno bridiau VikingRed, Montbeliarde a Holstein.
Mae gan y fferm hon 10 tarw Hereford a Friesian, a ddefnyddir fel ysgubwyr i sicrhau bod y buchod yn lloia o fewn bloc byrrach – y nod yw 10 wythnos.
Ein siwrnai
Mae Sychpant bob amser wedi bod yn fferm laeth deuluol, a brynwyd gan dad-cu Marcus yn Nhachwedd 1973, yn godro British Friesians yn wreiddiol.
Yn 2013 daeth Marcus yn ôl i’r fferm gyda’i wraig Vicki. Mi wnaethon nhw fuddsoddi yn y siediau ar gyfer buchod a lloi a seilwaith arall i ymestyn y fferm.
Mae Marcus wrthi ar hyn o bryd yn gwella ffrwythlondeb y fuches, am mai dyma un o’u hyrwyddwyr elw mwyaf, ac mi fydd yn helpu’r fferm i loia mewn bloc tynnach.
Mae e’ hefyd wedi dechrau gweithio i wella symudedd y fuches am fod hwn yn faes allweddol all gael effaith fawr gydag ond ychydig o fân newidiadau. Hoffai Marcus barhau i weithio ar y pethau hyn trwy gydol siwrnai Sychpant fel Fferm Laeth Strategol.
“Trwy ymuno â’r rhaglen Ffermydd Llaeth Strategol rydym yn gobeithio gael cyngor arbenigol yn y gobaith o wella ffrwythlondeb ac iechyd y fuches.
"Rydym wedi gweithio’n galed iawn i gyrraedd y fan hon yn ein siwrnai. Dwi’n teimlo bod gadael i bobl ddod yma a gweld yr hyn rydym wedi’i wneud a chael syniadau ar gyfer eu ffermydd eu hunain yn bwysig,” meddai Marcus.