- Home
- Projects
- Farm Excellence
- Cefn Gwyn (Welsh)
Cefn Gwyn (Welsh)
About Cefn Gwyn (Welsh)
- Ymunodd â’r rhwydwaith ffermydd llaeth strategol yn Haf 2025
- Lloia mewn bloc 9 wythnos yn y gwanwyn, gyda 40 o fuchod yn lloia yn hwyr ym Mehefin
- Buches o 300 o fuchod croesfrid
- Cynhyrchu 5000 litr y fuwch gan ddefnyddio parlwr saethben 24/48
- 81 hectar o dir godro
- Pori o adeg lloia yn Chwefror tan ganol Tachwedd
Dilynwch ein siwrnai os oes gennych chi ddiddordeb mewn:
-
Cael y perfformiad gorau o fuchod a heffrod
-
Gwneud penderfyniadau bridio i gael y perfformiad gorau o’ch buches
-
Dysgu mwy am iechyd y pridd a thyfu mwy o borthiant
-
Dechrau eich siwrnai i gynaliadwyedd proffidiol ac amgylcheddol
Trosolwg
Wedi’i lleoli yn Chwilog, Pwllheli, mae fferm Cefn Gwyn yn gartref i Tegid a Hannah Williams.
Mae tîm y fferm hefyd yn cynnwys dau weithiwr llawn amser, sef Kieran a Connor. Mae Cefn Gwyn yn fferm deuluol sy’n canolbwyntio ar groesfridio geneteg ei buches i gael y mwyaf o’r fuches.
Ein fferm
Mae gan Cefn Gwyn fathau amrywiol o bridd a meintiau amrywiol o goetir a phyllau ar draws yr 81 hectar o dir godro.
Maent wedi dechrau canolbwyntio ar ddadansoddi’r pridd a chael pridd sydd mor iach â phosib, drwy gynnal profion ar y pridd a chreu cynlluniau gwrtaith pwrpasol.
Mae Tegid hefyd yn gweithio gyda chontractwr i archwilio carbon ar draws y fferm gyfan, i’w helpu i ddeall eu priddoedd yn well.
Defnyddiwyd meillion ers blynyddoedd bellach ar y tir godro, i helpu i wneud defnydd o nitrogen a thyfu porthiant.
Ein buches
Mae’r fuches o 300 o fuchod croesfrid sy’n lloia yn y gwanwyn yn cynhyrchu 5,000 litr y fuwch bob blwyddyn ar gyfartaledd, sy’n 5.21% braster menyn a 3.88% protein.
Mae’r buchod yn cael eu godro ddwywaith y dydd mewn parlwr saethben 24/48. Mae’r croesfrid yn cynnwys geneteg Jersey, Holstein a Friesian.
Mae’r heffrod yn cael eu magu ar fferm arall, ac mae 100 o anifeiliaid amnewid yn cael eu bridio bob blwyddyn, gyda’r gweddill yn mynd yn gig eidion.
Ar gyfer tymor 2023, bu Tegid a Hannah yn gweithio gyda LIC i gwblhau adroddiad gwella’r fuches, i helpu i ddewis buchod amnewid ar gyfer bridio.
Ein siwrnai
Dechreuodd Tegid, ei frawd, a’u rhieni ffermio Cefn Gwyn tua 15 mlynedd yn ôl, gan ddefnyddio tir y fferm ar gyfer stoc ifanc a silwair. Cyn hynny, roedd taid a nain Hannah yn ffermio yno.
Yn 2020, cawsant gynnig mwy o dir a gwnaethant y penderfyniad i’w throi hi’n fferm laeth. Mae eu prif feysydd o ddiddordeb yn cynnwys geneteg, priddoedd a gwneud y mwyaf o borthiant, a chynyddu proffidioldeb y fferm.
Yn y tymor byr, mae Tegid a Hannah yn gobeithio lleihau’r costau mewnbwn. Ar hyn o bryd maent wrthi’n cynnal archwiliad carbon, a byddant yn dechrau gweithio i wella pethau unwaith y cânt y canlyniadau.
Maent yn gobeithio y gall y rhaglen Ffermydd Llaeth Strategol roi mynediad iddynt at ymgynghorwyr a grŵp llywio a fydd yn helpu i’w tywys tuag at wella eu fferm yn gyffredinol drwy wella effeithlonrwydd a phroffidioldeb.
“Dwi ddim yn credu bod yna unrhyw beth nad ydw i’n barod i’w newid os alla’i gael mwy o effeithlonrwydd a phroffidioldeb ohono,” meddai Tegid.
Cefn Gwyn is a part of the Environmental Baselining pilot, which means they will be providing unique data and insights, along with other farms from across the UK to drive change and build a national dataset for accurate and credible environmental reporting.
“Ymunais â’r prosiect gosod llinell sylfaen am fod gennym fathau amrywiol o dir yma, yn ogystal â meintiau amrywiol o goetir a phyllau, ac yn y bôn roeddwn am gael llinell sylfaen,” ychwanegodd Tegid.
